03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rishi Sunak cyhoeddi £30m o gyfraniad i gyfleuster profi rheilffyrdd arfaethedig

MAE’R cyhoeddiad fod Llywodraeth y DU yn gwneud cyfraniad gwerth £30m i gyfleuster profi rheilffyrdd arfaethedig rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys wedi cael croeso gan ddau gyngor yr ardal.

Y bwriad yw lleoli’r ganolfan ar safle’r cyn-bwll glo brig yn Nant Helen (y safle a ffafrir ar gyfer y trac profi) a golchfa lo gyfagos Onllwyn – sy’n cynnwys ardaloedd awdurdod lleol dau gyngor sir, Powys a Chastell-nedd Port Talbot.

Fe’i cynlluniwyd i arddangos Cymru fel canolbwynt ymchwil a datblygu, ac arweinydd  technoleg rheilffyrdd carbon isel. Y syniad yw y bydd y cyfleuster yn cefnogi gweithgynhyrchwyr trenau’r DU gyda’r lle a’r gallu i wneud profion trylwyr ar stoc trenau ac isadeiledd rheilffyrdd, o’r prototeip i’r gweithredu.

Disgrifiwyd cyhoeddi’r arian yn araith Cyllideb y Canghellor Rishi Sunak heddiw (3 Mawrth) fel cam mawr ymlaen i brosiect y Ganolfan Fyd-eang Ragoriaeth Rheilffyrdd gan Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris ac Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones.

Yn ôl y Cynghorydd Jones:

Pic. Chris McAndrew, CC BY 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by/3.0>, via Wikimedia Commons

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi gweithio’n galed gyda phartneriaid yn y sector breifat i yrru’r prosiect hwn ymlaen, ac rydyn ni’n croesawu’n fawr y gefnogaeth ariannol gref hon.

“Os bydd yn derbyn sêl bendith terfynol, bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang Rheilffyrdd hon creu cyfleuster ymchwil datblygu a phrofi technoleg rheilffyrdd i arwain y byd yma yn ne-orllewin Cymru.

“Bydd yn cynnig cyfle sylweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymoedd de Cymru a thrwy gydol Castell-nedd Port Talbot, a bydd hefyd yn rhoi hwb mawr i swyddi hirdymor o safon uchel, yn ogystal â gwaith adeilad yn ystod y cyfnod adeiladu.

“Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid eraill wrth i’r achos busnes uchelgeisiol hwn ddod yn fyw.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris:

“Dwi wrth fy modd o glywed y bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer y prosiect arloesol, a fydd yn darparu rhan o becyn cefnogaeth ariannol er mwyn galluogi’r prosiect pwysig hwn ar ffin Powys i fwrw ymlaen.

“Dyma brosiect cyffrous, a byddwn ni’n parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’n cymdogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot i symud y prosiect hwn yn ei flaen, er mwyn i’r rhanbarth allu elwa o’r manteision economaidd llawn a ddaw yn sgil y cyfle unigryw hwn.”

 

 

%d bloggers like this: