03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Rydym bellach yn teimlo’n fwy diogel wrth gerdded i’r ysgol” yw neges disgyblion ysgol Cil-y-coed

PAN ymwelodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters â’u hysgol yn gynharach heddiw roedd plant yn Ysgol Gynradd Durand, yng Nghil-y-coed, yn gyffrous i ddweud wrtho sut mae’r terfyn cyflymder newydd o 20mya yn eu tref wedi rhoi mwy o ryddid iddynt gerdded, beicio neu fynd ar eu sgwteri i’r ysgol.

Cil-y-coed, yn Sir Fynwy, oedd un o’r cymunedau a ddewiswyd i gymryd rhan yng ngham un y rhaglen i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya. Bydd gweddill Cymru yn dilyn ôl ei draed o fis Medi 2023 wedi i’r ddeddfwriaeth newydd gael ei chymeradwyo yn y Senedd yn gynharach yr haf hwn. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam hwn.

Ers i’r terfyn cyflymder newydd o 20mya fod ar waith, mae elusen Living Streets wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r ysgol er mwyn ceisio deall yn well ymddygiadau ac agweddau pobl o ran teithio. Roedd rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys mynediad i’r cynllun tracio WOW a ariennir gan Lywodraeth Cymru – sy’n annog teuluoedd a phlant i leihau teithiau ceir a chynyddu cyfraddau cerdded.

Mewn chwe mis yn unig mae’r ysgol wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n teithio i’r ysgol  mewn modd cynaliadwy- o 48% i 69% – gyda’r disgyblion a rhieni’n egluro eu bod bellach yn ‘teimlo’n fwy diogel wrth gerdded i’r ysgol’ yn sgil y terfyn cyflymder is, a’i bod bellach yn ‘haws croesi’r ffordd’. Yn sicr mae eu profiad cyffredinol yn ‘fwy dymunol, yn fwy didrafferth ac yn ddistawach’.

Wrth siarad yn nigwyddiad Mis Cerdded i’r Ysgol, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters:

“Rwy’n falch iawn o weld bod cymaint o deuluoedd yn croesawu’r cam hwn a bellach yn teimlo’n ddigon diogel i adael eu car gartref a chwblhau eu taith i’r ysgol ar droed.

Mae’r dystiolaeth yn glir, mae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau, ond hefyd yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl – gan wneud ein strydoedd a’n cymunedau yn fwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr, tra’n helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.”

Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Durand, Allison Waters:

“Rydym yn falch iawn o gael chwarae rhan mor flaenllaw yn y fenter gyffrous a phwysig iawn hon.

Ers i ni gyflwyno menter traciwr teithio ‘WOW’ Living Streets ‘nôl ym mis Ionawr, rydym wedi gweld bod nifer sylweddol o’n disgyblion wedi dewis dulliau llesol o deithio i’r ysgol yn hytrach na dod mewn car. Mae traciwr ‘WOW’ hefyd wedi creu cyfle gwych i’r plant siarad am eu taith i’r ysgol ac annog eu ffrindiau a’u teulu i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.

Mae cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd is yn ein cymuned hefyd wedi golygu bod ein disgyblion bellach yn teimlo’n fwy diogel wrth gerdded i’r ysgol.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Living Streets, Stephen Edwards:    ]

“Mae disgyblion, teuluoedd, a staff ysgolion wir wedi elwa ar gerdded i’r ysgol ac yn mwynhau manteision bod yn egnïol yn sgil y ffaith bod strydoedd yr ardal yn fwy diogel.

Pan fyddwn yn cerdded mwy ac yn gyrru llai, mae ein hiechyd ac ansawdd yr aer o’n cwmpas yn gwella’n sylweddol- a bydd cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ein ffyrdd preswyl yn gwella’r mannau ble rydym yn byw, yn gweithio ac yn mynd i’r ysgol.”

Ar ei ymweliad ag ysgol gynradd Cil-y-coed roedd y Dirprwy Weinidog hefyd yn awyddus i rannu â‘r disgyblion y newyddion bod Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Diogelwch Ffyrdd Cymru, yn lansio cystadleuaeth genedlaethol sy’n gwahodd pobl ifanc i ddylunio arwydd ffordd i gefnogi’r terfyn cyflymder diofyn  newydd o 20mya. Dyddiad cau’r gystadleuaeth hon yw dydd Gwener 20 Ionawr 2023.

%d bloggers like this: