04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Safle wedi ddewis i un ysgol Gatholig Wirfoddol yn Merthyr

MAE safle ei dewis ar gyfer un ysgol pob oed 3-16 Catholig a Gynorthwyir yn Wirfoddol ar gyfer Merthyr Tudful.

Mae Cabinet y Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi cymeradwyo’r tir i’r de o’r ‘Greenie’, sef gorllewin Heol Galon Uchaf fel y safle a ffafrir, ond bydd yn cynnal ymgynghoriadau pellach â phreswylwyr, cymunedau ysgolion ac Archesgobaeth Caerdydd wrth i’r dyluniad ddatblygu.

Caiff archwiliadau pellach eu cyflawni nawr, yn cynnwys monitro traffig, draeniad ac archwiliadau’r tir, arolygon ecoleg ac arolygon drôn trwyddedig, o’r safle a’r ardaloedd amgylchynol.

Er mwyn sicrhau rheoli traffig addas, mannau gadael/ parcio a chyfleusterau chwaraeon, bydd safle presennol ysgol uchaf Ysgol Uwchradd Esgob Hedley yn cael ei gadw fel opsiwn fel atodiad i’r defnydd o’r prif safle os yw’n ofynnol.

Cafodd Cam 1 contract ar gyfer datblygu dyluniad ei ddyfarnu i Willmott Dixon Construction\, adeiladwyr sy’n arweiniol yn y DU o ran adeiladu ysgolion a cholegau, a byddant yn ymgymryd â gwaith archwilio’r safle.

Caiff cylchlythyron rheolaidd eu hanfon i breswylwyr lleol a chymuned yr ysgol gyda diweddariadau o ran archwilio safle a manylion am unrhyw ymgynghori pellach.

Y bwriad cael cyn lleied o aflonyddu ag sy’n bosibl i’r gymuned leol a’i phreswylwyr, a chaiff gwaith ei gyflawni yn ystod oriau gwaith arferol: Dydd Llun – Ddydd Gwener 8am-5pm, oni bai fod gofyniad penodol, fel archwiliadau ystlumod gyda’r gwyll.

Disgwylir i adeilad newydd yr ysgol agor ym mis Medi 2023 a bydd yn cymryd lle safleoedd presennol Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Aloysius, a Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Sant Illtud a’r Santes Fair.

Mae’r cynlluniau yn manylu ar ddatblygiad un o’r meysydd chwarae i gyfleuster pob tywydd a rennir gyda’r gymuned.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Ddysgu y Cynghorydd Lisa Mytton:

“Rydym yn hapus, ar ôl ymgynghoriad manwl, ein bod wedi dewis y lleoliad gorau posibl ar gyfer ein hysgol newydd gyffrous.

“Mae angen i ni wneud peth archwilio manwl pellach i sicrhau fod y seilwaith yn gwbl gywir i’r holl randdeiliaid, a byddwn yn sicrhau fod pawb yn derbyn yr holl wybodaeth ar hyd y daith.”

Mae copi o adroddiad y Cabinet ar gael ar y wefan gyda’r ddolen ganlynol https://democracy.merthyr.gov.uk/documents/s52898 a gellir hefyd ei dderbyn drwy e-bost neu fel copi caled drwy’r post.

Caiff y ddarpariaeth ei chynllunio mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Caerdydd, a fydd yn gyfrifol am weithredu’r ysgol.

%d bloggers like this: