04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Portraits of Welsh Government Ministers and Deputy Ministers, 19 November 2019

Saib droid drop i Cynllun Cartrefi i Wcráin

YN dilyn ymateb hynod gadarnhaol pobl Cymru i gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gyflwyno mwy na 2000 o fisas hyd yma, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi saib gweithredol dros dro ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin.

Diben y saib dros dro yw sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth.

Bydd y saib dros dro hwn yn dechrau o ddydd Gwener 10 Mehefin a bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn defnyddio’r amser hwn i ganolbwyntio ar sefydlu trefniadau ar gyfer llety cam nesaf a darparu gwasanaethau cofleidiol ehangach ledled Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“O ddechrau’r gwrthdaro yn Wcráin, mae ein neges ni wedi bod yn glir – mae Cymru’n Genedl Noddfa ac yn barod i groesawu pobl sy’n ffoi rhag rhyfel.

Wedi’i lansio ddiwedd mis Mawrth, rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i’n llwybr Uwch-Noddwyr ar gyfer Cartrefi i Wcráin. Rydyn ni wedi gweld fisas yn cael eu rhoi ymhell y tu hwnt i’n hymrwymiad cychwynnol i groesawu 1000 o bobl.

Bydd y saib dros dro hwn yn gyfle i ni fireinio’r trefniadau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi pobl wrth iddyn nhw gyrraedd a sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth o safon uchel.

I fod yn glir, ni fydd y saib gweithredol hwn yn effeithio ar unrhyw geisiadau cyfredol a bydd pobl yn parhau i gyrraedd Cymru wrth i fisas gael eu dyfarnu ac wrth i drefniadau teithio gael eu cadarnhau.”

Gan ganmol y dull ‘Tîm Cymru’ o ymdrin â’r argyfwng, dywedodd y Gweinidog wedyn:

“Mae lefel yr ymrwymiad i bobl Wcráin ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach wedi bod yn wych.

Rydw i eisiau talu teyrnged i bawb sy’n cyfrannu at ddull ‘Tîm Cymru’ o weithredu gyda’r argyfwng yn Wcráin. Mae’r cynllun hwn yn llwyddiant oherwydd yr holl unigolion, sefydliadau, busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector.

Fe allwn ni i gyd fod yn falch o’r ymdrech arwrol i gefnogi pobol Wcráin, gan ddangos yn glir bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.”

%d bloggers like this: