03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sefydliad Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cefnogi symudiad yng Nghymru tuag ar ranbarthiaeth

MAE adroddiad newydd gan yr arbenigwyr rhanbarthol Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn rhoi tystioalaeth i gefnogi dull Llywodraeth Cymru o gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol.

Comisiynwyd yr OECD i roi cyngor ac i’n herio, ac i rannu arferion gorau rhyngwladol gyda ni, wrth inni weithredu ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd a datblygu cynlluniau newydd ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru wedi Brexit.

Bu OECD yn gweithio ers deunaw mis, ac mae wedi golygu gwaith ymchwil eang, dadansoddi a thrafod gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid ledled Cymru.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw o dan y teitl Dyfodol Datblygiad Rhanbarthol a Buddsoddiad Cyhoeddus yng Nghymru, y Deyrnas Unedig yn cefnogi mwy o lunio polisïau ar y cyd ar gyfer datblygu rhanbarthol ac yn awgrymu ffyrdd newydd o gryfhau llywodraethu a datblygu rhanbarthol, a ffyrdd gwell o greu capasiti.  Mae hefyd yn rhannu argymhellion ar gyfer gweithredu gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae llawer o’r gwaith hwn eisoes wedi dechrau, ac mae OECD bellach yn gweithio ar ddatblygu pecyn ymarferol i bartneriaid rhanbarthol ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn.

Meddai Lamia Kamal-Chaoui, Cyfarwyddwr Canolfan OECD ar gyfer Entrepreneuriaeth, Busnesau Bach a Chanolig, Rhanbarthau a Dinasoedd:

Mae’n bosibl i Gymru sicrhau gwell twf, cynhwysiant a llesiant trwy ddatblygiad rhanbarthol integredig yn seiliedig ar le a buddsoddiad cyhoeddus.

“Mae’r adroddiad hwn yn cynnig ystod o argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth fydd yn helpu i lywio’r dulliau hyn o ddatblygu rhanbarthol, a hoffem ddiolch i bob un o’r sefydliadau yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn ac wedi rhoi gwybodaeth werthfawr inni dros y 18 mis diwethaf.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Ein nod cyffredinol ar gyfer rhanbarthiaeth a dull yn seiliedig ar le yw i benderfyniadau gael eu gwneud ar y pwynt sydd yn fwyaf gwerthfawr i bobl Cymru.  Caiff y dull hwn ei greu drwy bartneriaeth gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a’r trydydd sector ac rwy’n falch iawn bod OECD wedi cefnogi’r gwaith hwn.    

“Mae y newidiadau yr ydym wedi eu hamlinellu drwy’r Cynllun Gweithredu Economaidd i hybu economïau ledled Cymru yn rhai dwfn, fel ein huchelgais i weithio mewn partneriaeth gryfach yng Nghymru i hybu twf cynhwysol a chynaliadwy.  Nid oes neb gwell na OECD i helpu inni gyflawni hyn ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu gwaith.”

Meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd:

“Mae ein strategaeth ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn yr UE wedi helpu i wella a datblygu ein heconomi, ond mae’n amlwg y bydd angen inni barhau i fuddsoddi i fynd i’r afael â’r heriau economaidd presennol, a heriau newydd yr ydym yn eu hwynebu.   

“Nid ydym am ailgreu model yr UE yng Nghymru – rydym wedi ymrwymo i greu dull newydd o weithredu yng Nghymru sy’n adlewyrchu arfer gorau yn rhyngwladol, yn adeiladu ar ein ddeddfwriaeth benodol, ac yn cyflawni i bob un o’n busnesau, ein cymunedau a’n pobl.”

Bydd y bartneriaeth hon gydag OECD yn helpu i gryfhau ein dull o weithio ac yn rhoi hyder i’n partneriaid y gellir llunio partneriaethau newydd a deinamig i arloesi ac i rannu polisïau mewn dulliau ffres a gwreiddiol.

%d bloggers like this: