04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sefydlu Diwydiant Sero Net Cymru i gefnogi datgarboneiddio diwydiant Cymru

HEDDIW, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd corff newydd, Diwydiant Sero Net Cymru yn cael ei greu i gefnogi datgarboneiddio diwydiant Cymru a chreu swyddi newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod Cymru’n dod yn genedl Sero Net erbyn 2050.

Yn rhannol oherwydd treftadaeth ddiwydiannol Cymru o fewn y sectorau dur, olew, nwy a chemegau yn ne Cymru, mae busnesau yng Nghymru yn gyfrifol am tua 20% o allyriadau carbon diwydiannol a busnes cyffredinol y DU – gellir priodoli’r rhan fwyaf o allyriadau carbon diwydiannol a busnes Cymru yn uniongyrchol i gwmnïau ar hyd coridor yr M4.

Bydd Diwydiant Sero Net Cymru yn gweithio gyda grŵp o 40 o bartneriaid busnes ac academaidd sy’n gweithredu o fewn ystod eang o ddiwydiannau ynni-ddwys i’w helpu i gyflawni Sero Net.

Bydd hyn yn gofyn am ostyngiad blynyddol cyfartalog o 1.3 miliwn tunnell o CO2e yn allyriadau Cymru (o lefelau 2018).

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd gan y corff newydd nifer o flaenoriaethau tymor byr i ganolig, gan gynnwys:

galluogi diwydiant i archwilio cyfleoedd twf economaidd newydd drwy ddod yn arweinydd byd-eang ym maes gweithgynhyrchu carbon isel – gan chwarae i gryfderau presennol Cymru;

cefnogi’r gwaith o ddatblygu Economi Gylchol yng Nghymru yn y dyfodol;

ysgogi ac angori buddsoddiadau newydd i greu a chadw swyddi sgiliau uchel; ac

ymgysylltu â rhanddeiliaid i gefnogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat.

Bydd creu Diwydiant Sero Net Cymru yn helpu i wneud y mwyaf o’r potensial ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfranogiad diwydiannol, tynnu cyllid perthnasol Llywodraeth y DU i lawr, a sicrhau bod gweithgareddau’n cyd-fynd â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r corff newydd gyda £150,000 o gymorth bob blwyddyn am y tair blynedd ariannol nesaf.

Er mwyn cefnogi Cymru ymhellach i gyflawni Sero Net, yn ddiweddarach eleni bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu Sero Net, a fydd yn nodi sut y bydd Gweinidogion yn cefnogi busnesau i ddatblygu gweithlu gwyrdd a medrus.

Cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Diwydiant Sero Net Cymru yn cael ei greu yn ystod ymweliad â TATA Steel ym Mhort Talbot.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae cyflymu datgarboneiddio busnesau a diwydiant Cymru yn hanfodol os ydym am gyrraedd ein targedau sero net uchelgeisiol erbyn 2050.

Mae creu Diwydiant Sero Net Cymru yn gam pwysig ymlaen i helpu i gyflawni’r newid hwn, ac mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi diwydiant yn ne Cymru i ddatgarboneiddio.

Roeddwn gyda’r diwydiant Awyrofod yr wythnos diwethaf yn archwilio trosglwyddo technolegau i gefnogi datgarboneiddio yng Nghymru ac yn disgwyl i Ddiwydiant Sero Net Cymru hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer y trosglwyddiad hwn ar draws ein holl weithgynhyrchwyr gwerth uchel.

Elfen bwysig arall yw cydweithio’n agos â chlystyrau diwydiannol eraill y DU i sicrhau y gall Gymru fanteisio ar arfer gorau.

Heb y gweithredu hwn, ni fydd Cymru a’r DU yn cyrraedd ein targedau sero net erbyn 2050.

Rydym yn cydnabod na allwn sicrhau datgarboneiddio yng Nghymru yn unig. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i sicrhau bod ystod eang o gymorth ar gael i fusnesau a diwydiant Cymru.

Mae’n hanfodol felly bod yr offer sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn addas i’r diben a’u bod yn ddigon hyblyg i gydnabod y prosesau a’r heriau diwydiannol cymhleth sydd i’w cyflawni.”

Meddai Dr Chris Williams, Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol Diwydiant Cymru:

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn deillio o flynyddoedd lawer o waith caled gan lawer o gwmnïau, Llywodraethau, Prifysgolion a phobl o’r un feddylfryd yng Nghymru a sylweddolodd y byddai’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fapio’r hyn sydd ei angen gan bob sector yng Nghymru er mwyn sicrhau economi adferol a sero-net yng Nghymru.

Nid yw’r hyn yr ydym yn gweithio arno yn ymwneud â newid cyfansoddiad diwydiannol Cymru, mae’n ymwneud ag arloesi, bod ar y blaen o ran datgarboneiddio er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’r diwydiannau a’r swyddi hyn yng Nghymru. Mae hefyd yn ymwneud ag archwilio cyfleoedd i greu diwydiannau newydd cyffrous yng Nghymru, yn ogystal ag adfywio a chynnal y rhai presennol.

Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol hir a chyfoethog, sy’n arwain y ffordd yn y chwyldro gweithgynhyrchu a pheirianneg. Nawr rydym yn bwriadu bod yn arweinydd y chwyldro gwyrdd ac mae creu Diwydiant Sero Net Cymru yn sicr yn mynd i’n helpu i gyflawni hynny mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a chydlynol.”

%d bloggers like this: