04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Julie James AM Minister for Housing and Local Government

Sefydlu Panel Adolygu Arbenigol ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru

MAE Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig sefydlu Panel Adolygu Arbenigol a fydd â’r gwaith o ddatblygu cynigion a chyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd.

Dywedodd:

“Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi diwygio gwasanaethau digartrefedd mewn ffordd radical yng Nghymru. Mae’r pwyslais a roddir ar atal a lleddfu’r broblem digartrefedd – gan roi i gynghorau ragor o hyblygrwydd o ran sut i ymyrryd a hybu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person wrth gefnogi pobl sy’n canfod eu hunain yn ddigartref – wedi newid y sefyllfa’n llwyr, gan ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o’r effaith y mae Deddf 2014 wedi ei chael yng Nghymru, ac rydym am weld hyn yn rhoi hwb mawr ymlaen i’n dull gweithredu mewn perthynas â digartrefedd, gan sicrhau nad oes troi’n ôl i fod.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys yr ymrwymiad hwn: Diwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymrwymo i ddiwygio’r gyfraith tai berthnasol. Mae ein Cynllun Gweithredu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn adlewyrchu’r ymrwymiadau hyn trwy  ddatblygu a chyhoeddi Papur Gwyrdd yn edrych ar y gwaith diwygio deddfwriaethol sydd ei angen. Mae’n fwriad gennym i gyhoeddi’r Papur Gwyrdd hwnnw yn nes ymlaen eleni,  ac o wneud hynny, bydd tystiolaeth a gwaith craffu yn hanfodol i sicrhau bod y diwygiadau yn ystyrlon, deallus, clir a rhagweladwy.

I’n helpu i nodi pa newidiadau sydd eu hangen, rydym yn sefydlu Panel Adolygu Arbenigol, a fydd â’r gwaith o ddatblygu cynigion a chyngor i Lywodraeth Cymru, sy’n gyson â’r cyfeiriad a geir yn ein Cynllun Gweithredu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein cyfreithiau yng Nghymru yn atal digartrefedd a phan fo achosion o ddigartrefedd, bydd yn darparu mynediad cyflym at gymorth neu dai, pa un bynnag sydd ei angen fwyaf.

Rwy’n falch iawn bod yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro Polisi Cymdeithasol a Thai a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cymdeithasol, Tai a Chydraddoldebau ym Mhrifysgol Heriot-Watt wedi cytuno i gadeirio’r Panel Diwygio Cyfreithiol. Mae’r Athro Fitzpatrick yn uchel ei pharch ac mae wedi cydweithio â Llywodraeth yr Alban ar waith diwygio deddfwriaeth atal digartrefedd. Bydd yn dod â phrofiad a gwybodaeth werthfawr i’r gwaith hwn.

Rwy’n disgwyl i’r Panel weithio’n gyflym, gan ddechrau cynnull yn ystod yr wythnosau nesaf i edrych ar ystod o faterion cyn llunio adroddiad ag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru o fewn 12 mis i’r adeg y bydd ei waith yn dechrau.

Bydd y Panel yn cynrychioli sectorau allweddol ac yn cynnwys sgiliau a fydd yn caniatáu ystyriaeth effeithiol o unrhyw waith diwygio angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnwys partneriaid o lywodraeth leol, cymdeithasau tai, sefydliadau digartrefedd a chydraddoldeb yn y trydydd sector ac arbenigwyr o feysydd academaidd a chyfreithiol. Yn ogystal, rwyf yn arbennig o awyddus i’r rheini sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan wasanaethau digartrefedd a’r rhai sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd, gael llais yn y broses hon. Bydd disgwyl i’r Panel sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu hadlewyrchu yn ei waith.

Mae Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â’i phartneriaid mewn llywodraeth leol a’r trydydd sector, wedi gwneud cynnydd sylweddol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yn ystod y pandemig bu’n bosibl ymgysylltu â phobl sy’n profi digartrefedd a oedd wedi cael eu hanghofio cyn hynny. Hoffwn fanteisio ar y cyfle sydd yn cael ei gynnig gan ein polisi o ‘adael neb ar ôl’ i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Rwyf am sicrhau bod y seilwaith statudol sy’n llywio’r ffordd y caiff gwasanaethau digartrefedd eu trefnu a’u darparu yn gosod sylfaen ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd y Panel yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wneud i hyn ddigwydd.”

%d bloggers like this: