03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin yn Aberystwyth mis Hydref

MAE Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi rhestrau’r tri uchaf ar gyfer ei Seremoni Gwobrau flynyddol sy’n cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn ei ddarpariaethau.

Bwriedir cynnal y Seremoni Gwobrau yn Theatr y Werin, Aberystwyth ar 17eg o Hydref eleni, yn ddibynnol ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal digwyddiadau yn sgil Covid-19.

Torrwyd pob record o ran niferoedd gan i dros 450 o enwebiadau gael eu cyflwyno ar gyfer deg categori; Ardal Tu Allan, Gwirfoddolwr, Arweinydd, Cylch Ti a Fi, Cynhwysiant, Cynorthwy-ydd, Dewin a Doti, Meithrinfa Ddydd, Cylch Meithrin a Phwyllgor.

Mae ychydig o newid i’r drefn o ddyfarnu’r enillwyr i’r categori Cylch Meithrin eleni – cafodd y tri uchaf eu dewis o bob 4 talaith gydag enillydd ym mhob talaith ac yna byddwn yn cyhoeddi un o’r enillwyr yma’n enillydd cenedlaethol.

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad. Cafodd bawb gyfle i enwebu unigolion o Gylch Meithrin; Cylch Ti a Fi neu feithrinfa ddydd am wobr mewn deg gwahanol gategori.”

%d bloggers like this: