03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Seren y gyfres Gavin & Stacey yn lansio ymgyrch Defibuary Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

MAE un o ffefrynnau’r gyfres Gavin & Stacey wedi lansio ymgyrch flynyddol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Defibuary.

Roedd Melanie Walters, sy’n actio Gwen West yn y comedi poblogaidd, yn Abertawe i ddynodi dechrau’r ymgyrch am y mis nesaf i addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd adfer cardio-pwlmonaidd a defnyddio diffibrilydd gan bobl sydd wrth ymyl unigolyn sy’n dioddef ataliad ar y galon.

Ceir mwy na 30,000 o ataliadau ar y galon y tu allan i’r ysbyty yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Bydd siawns unigolyn o oroesi ataliad ar y galon yn lleihau 10% am bob munud heb adferiad cardio-pwlmonaidd ansawdd da a defnyddio diffibrilydd yn gynnar.

Mae’r actores o Abertawe’n enedigol yn annog y cyhoedd sy’n gweld rhywun yn dioddef o ataliad ar y galon i beidio â bod ofn defnyddio diffibrilydd a dechrau’r ‘gadwyn oroesi’.

Dywedodd Melanie: “Mae canfod problemau gyda’r galon ac ymyriad cynnar yn achos trawiad ar y galon yn bwysig iawn ar lefel bersonol i mi ar ôl i fy nhad farw o drawiad ar y galon yn 33 oed yn y 60au.

“Nawr yn 2020 rydym ni yn y sefyllfa, gyda’r peiriannau hyn yn ac o gwmpas ein cymunedau, y gall unigolyn cyffredin gerllaw gynorthwyo i gynyddu siawns person o oroesi.

“Mae angen i ni gynyddu ymwybyddiaeth am leoliad diffibrilyddion a’r ffaith eu bod yn hawdd iawn i’w defnyddio.”

Mae ataliad ar y galon yn digwydd pan fo’r galon yn rhoi’r gorau i bwmpio gwaed o gwmpas eich corff yn sydyn.

Pan fo’ch calon yn rhoi’r gorau i bwmpio gwaed, mae’n achosi diffyg ocsigen i’r ymennydd ac mae hyn yn gwneud i chi fynd yn anymwybodol a rhoi’r gorau i anadlu.

Dywedodd Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Meddygol a Chlinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfri pan mae rhywun yn cael ataliad ar y galon.

“Maen nhw angen adfer cardio-pwlmonaidd ar unwaith gan y rhai o’u cwmpas, yn aml aelodau’r teulu, cydweithwyr neu bobl sy’n mynd heibio.

“Yn ogystal ag adfer cardio-pwlmonaidd ansawdd da, gallai fod angen trin y claf gyda diffibrilydd hefyd.

“Dyfais yw diffibrilydd sy’n rhoi sioc drydanol ynni uchel i’r galon ac mae’n rhan hanfodol wrth geisio achub bywyd rhywun sy’n dioddef ataliad ar y galon.

“Maen nhw i’w cael mewn mannau cyhoeddus ac maen nhw’n syml ac yn ddiogel i’w defnyddio; bydd y peiriant yn dweud wrthych chi beth i’w wneud felly does dim angen hyfforddiant arnoch chi.

“Bydd diffibrilydd yn medru rhoi sioc pan fo angen yn unig – ni all y peiriant achosi niwed.”

Mae’r ymgyrch Defibuary, sy’n cael ei lansio ddydd Sadwrn ac yn parhau trwy gydol mis Chwefror, hefyd yn gofyn am gymorth y cyhoedd i sicrhau bod yr holl ddiffibrilyddion ar draws Cymru wedi’u cofrestru ar y system 999.

Tynnwch lun ohonoch eich hun gyda diffibrilydd er mwyn cymryd rhan, gan ei wneud mor unigryw ag y dymunwch.

Defnyddiwch Trydar i anfon y llun a’i leoliad a’i god post i @WelshAmbPIH gan ddefnyddio’r hashnod #Defibuary2020.

Bydd gwobrau’n cael eu rhoi ddiwedd Chwefror, yn cynnwys diffibrilydd.

Dywedodd Fiona Maclean, Rheolwr Profiadau Cleifion a Chynnwys y Gymuned yr Ymddiriedolaeth: “Mae Defibuary yn ymgyrch rhagorol sy’n hyrwyddo adfer

cardio-pwlmonaidd a defnyddio diffibrilydd, sy’n achub bywydau, tra’n annog pawb yn y gymuned i gymryd rhan yn chwilio am ddiffibrilyddion.

“Y llynedd, gyda chymorth y cyhoedd, gwnaethom adnabod 129 o leoliadau diffibrilyddion newydd nad oeddynt wedi’u cofrestru ar ein system ni, ac rydym ni’n obeithiol y medrwn ni ganfod hyd yn oed rhagor na hynny eleni.”

Gwnaeth mwy na 17 miliwn o bobl wylio rhifyn arbennig o Gavin & Stacey ddydd Nadolig, a enillodd y Wobr Effaith yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol yr wythnos hon.

Ychwanegodd Melanie: “Rydw i mor falch eu bod wedi gofyn i mi gymryd rhan yn ymgyrch #Defibuary2020.

“Mae’n bleser gen i gynorthwyo i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch diffibrilyddion. Medrwn gynorthwyo i achub bywydau, pa mor wych yw hynny?”

%d bloggers like this: