03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Heddiw, (Gorffennaf 17) bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf.

Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, digwyddiadau ar-lein a dolenni at adnoddau digidol presennol. Mae’r Sialens yn cynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg.

Thema’r Sialens eleni yw ‘Sgwad Gwirion’ a bydd yn dathlu llyfrau llawn hwyl, hapusrwydd a chwerthin. Bydd plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn ymuno â’r Sgwad Gwirion, tîm o anifeiliaid anturus sydd “wrth eu boddau’n cael hwyl a chladdu’u trwynau mewn pob math o lyfrau doniol!”

Y llynedd, cymerodd dros 37,000 o blant ledled Cymru ran yn y Sialens. Ymunodd dros 3,000 o blant â llyfrgelloedd fel aelodau newydd a chymerodd 33,000 o blant ran mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Fel rhywun sy’n caru llyfrau fy hun, dw i’n gwybod gymaint o bleser yw darllen dros y gwyliau.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o blant yn ymuno â llyfrgelloedd oherwydd Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n ffordd ardderchog o ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad gydol oes at lyfrau.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas:

“Dw i’n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi llyfrgelloedd gyda’r Sialens eleni. Mae’r cynllun wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad blynyddol i lawer o blant, sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan bob blwyddyn.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn ein llyfrgelloedd sy’n cyfrannu at wneud Sialens Ddarllen yr Haf yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru.”

Dywedodd Nicola Pitman, Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru:

“Mae gan lyfrgelloedd nawr eu casgliadau mwyaf erioed o eLyfrau, comics a chylchgronau i’w lawrlwytho, ac eleni mae Sialens Ddarllen yr Haf yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni yn wirioneddol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael hwyl gyda straeon a phynciau doniol.

“Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu yn cael eu sefydlu ledled y wlad i helpu pawb i gael gafael ar lyfrau llyfrgell yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi mor hawdd cofrestru a derbyn yr her, diolch i’r wefan ar ei newydd wedd, sy’n cynnig llond lle o adnoddau, syniadau ac anogaeth gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb yn mynd yn hollol wirion ac yn ymuno â sgwad Sialens Ddarllen yr Haf.”

Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency:

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn datblygu platfform digidol dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf, a fydd yn barod i deuluoedd ei fwynhau o ganol mis Gorffennaf ymlaen.

“Mae The Reading Agency wedi ymrwymo i sichau bod grym profedig darllen o fewn cyrraedd pawb. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llyfrgelloedd cyhoeddus a theuluoedd yng Nghymru’n cymryd rhan yn y Sialens ac yn cael haf gwirioneddol wirion!”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause:

“Mae meithrin ac annog darllen yn bwysicach yn y cyfnod hwn nag erioed o’r blaen. Mae ymchwil yn dangos yn glir bod codi llyfr yn llesol nid yn unig i’n lles a’n hiechyd meddwl – mae hefyd yn helpu i gryfhau a chadarnhau sgiliau iaith a sgiliau addysgol plant. Pob hwyl a mwynhad i bawb sy’n rhan o’r Sialens Ddarllen Haf eleni.”

%d bloggers like this: