10/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru

MAE Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi lansio’r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, sy’n disgrifio hawliau gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Dywedodd y Gweinidog:

“Cafodd y siarter ei chynhyrchu ar y cyd ag aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y GIG, a’r trydydd sector. Mae gofalwyr di-dâl hefyd wedi chwarae rôl ymarferol yn y gwaith o ddrafftio’r ddogfen, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at y trafodaethau pwysig hyn.

Gan dynnu ar arbenigedd gweithwyr proffesiynol a gofalwyr di-dâl, rydym wedi creu canllawiau syml ac ymarferol i helpu gofalwyr i ddeall ac arfer eu hawliau. Nod arall y ddogfen yw helpu gweithwyr proffesiynol i wella eu dealltwriaeth o’r hyn a ddisgwylir ganddynt o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rydym wedi cynhyrchu tair fersiwn o’r siarter. Mae’r siarter lawn yn rhoi golwg gyffredinol ar hawliau gofalwyr, ac mae’n cynnwys enghreifftiau o arferion da sy’n ymwneud â chefnogi gofalwyr di-dâl  ac ymgysylltu â nhw mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r fersiwn gryno’n tynnu sylw at hawliau cyfreithiol allweddol, ac mae’r fersiwn i bobl ifanc yn cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n hawdd ei deall i ofalwyr di-dâl o unrhyw oed.

Mae dyluniad cyffredinol y dogfennau’n adlewyrchu ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth lwyddiannus er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y dogfennau a gyhoeddir gennym.

Rwy’n gobeithio y bydd y siarter hon yn adnodd effeithiol i ofalwyr di-dâl a hefyd i weithwyr proffesiynol, ac y bydd yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella’r cymorth a roddir i ofalwyr di-dâl o bob oed.”

%d bloggers like this: