04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sicrhau consesiynau i Fil Etholiadau’r DU

WRTH i’r Senedd baratoi i bleidleisio ar hynt Bil Etholiadau Llywodraeth y DU, cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i etholiadau agored ac i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr ei bwysleisio unwaith eto gan Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol.

Mae Bil Etholiadau Llywodraeth y DU yn cynnig cyflwyno prawf adnabod gorfodol a fydd yn cynnwys llun, yn ogystal â mesurau sy’n ymwneud â gweinyddu a chynnal etholiadau, etholwyr tramor a dinasyddion y DU, ynghyd â diwygiadau i rôl y Comisiwn Etholiadol.

Meddai Mr Antoniw:

“Mae perygl y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno prawf adnabod ar gyfer pleidleiswyr yn ei gwneud yn anoddach i bleidleisio. Er na fydd y cynigion yn berthnasol i etholiadau datganoledig, byddant yn berthnasol i etholiadau cyffredinol yng Nghymru ac rwy’n poeni y bydd hyn yn achos dryswch i bleidleiswyr. Rydym wedi rhannu ein pryderon gyda Llywodraeth y DU.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau consesiynau sy’n golygu na fydd rhannau helaeth o’r Bil yn berthnasol i etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dileu darpariaeth arfaethedig a fyddai wedi caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo’r Comisiwn Etholiadol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau datganoledig yng Nghymru.

Mewn Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, y pleidleisir arno yn y Senedd ddydd Mawrth, mae Llywodraeth Cymru yn argymell mai ar gyfer dau faes penodol yn unig – argraffnodau digidol a gwneud achosion o fygwth pleidleiswyr yn drosedd – y dylid rhoi cymeradwyaeth.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae’r consesiynau rydym wedi’u sicrhau i’r Bil hwn yn cynrychioli llwyddiant ar ran datganoli. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud etholiadau mor agored a hygyrch â phosibl, ac i wneud popeth yn ei gallu i gynyddu cyfranogiad.

Dyna pam y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Mai. Rydym hefyd yn cynnal cynlluniau peilot mewn pedwar awdurdod lleol a gynlluniwyd i’w gwneud yn haws i bobl bleidleisio ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw.”

 

%d bloggers like this: