09/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sioe Arloesi ac Arallgyfeirio Cyswllt Ffermio 2022

MAE Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru eleni, sydd yn ôl am y tro cyntaf ers y pandemig. Bydd yn digwydd ar Faes Sio Frenhinol Cymru dydd Mercher 15 Mehefin.

Caiff Cyswllt Ffermio ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cynhaliwyd y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ym mis Medi 2019, a denodd dros 1,000 o ymwelwyr a 90 o arddangoswyr.

“Am lwyddiant ysgubol”, ac “a gawn ni fwy o ddigwyddiadau fel hyn os gwelwch yn dda?” oedd yr ymateb mewn arolwg a gynhaliwyd ar ôl y digwyddiad gan Menter a Busnes, a gyflwynodd y digwyddiad ochr yn ochr â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Nod digwyddiad eleni yw adeiladu ar y momentwm hwnnw, gan annog hyd yn oed mwy o fusnesau fferm a choedwigaeth i fanteisio ar y cymorth, gwybodaeth, syniadau arallgyfeirio a thechnolegau newydd a fydd yn eu helpu i lwyddo yn y farchnad hynod gystadleuol sydd ohoni heddiw.

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, fod y cloc eisoes yn tician ar gyfer arddangoswyr sydd eisiau archebu lle ar gyfer y digwyddiad eleni. Mae’n dweud bod y tîm cynllunio eisoes yn gweithio ar fformat a fydd ‘hyd yn oed yn fwy’ ac ‘yn well’ nag o’r blaen.

“Cawsom ymateb hynod gadarnhaol i’r digwyddiad cyntaf, gan ymwelwyr ac arddangoswyr, ac rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae wedi helpu llawer o’r rhai a gymerodd ran i wneud cysylltiadau newydd a gwerthfawr, datblygu neu sefydlu mentrau arallgyfeirio newydd a gweithredu ffyrdd arloesol a mwy effeithlon o weithio.”

Fe ddenodd sioe 2019 ystod amrywiol o siaradwyr enwog ysbrydoledig, megis The Black Farmer a The Red Shepherdess. Roedd y sioe hefyd yn cynnwys cyfres o weithdai sector-benodol, gydag arddangoswyr yn arddangos technolegau newydd ac arloesol ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth. Cadwch lygad ar wefan Cyswllt Ffermio i weld pwy sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2022.

Ac yntau wedi’i ddisgrifio fel digwyddiad i ysbrydoli, ysgogi a chylchredeg syniadau, gyda rhwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd yn cael ei nodi fel un o’r manteision allweddol, ac mae’r digwyddiad eleni yn argoeli i fod yr un mor llwyddiannus â digwyddiad 2019.

“I unrhyw arddangoswyr sydd eisiau cymryd rhan, mae’n bryd i chi ddatgan eich diddordeb drwy archebu stondin aelein,” meddai Mrs Williams.

%d bloggers like this: