03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sir Fynwy yn ethol ei Arweinydd benywaidd cyntaf a’n cadarnhau’r Cabinet

YN y cyfarfod cyntaf o’r Cyngor Llawn yn dilyn yr etholiadau diweddar cadarnhawyd mai’r Cyngh. Mary Ann Brockleby fydd yn ymgymryd â’r rôl fel Arweinydd a hi hefyd yw Arweinydd y Grŵp Llafur. Mae’r Cyngh. Brocklesby, a etholwyd fel Aelod Ward ar gyfer Llanelly yn yr etholiadau lleol ar 5ed Mai, wedi byw gyda’i merch yn Sir Fynwy am fwy na degawd  ac mae ganddi fusnes ei hun yn helpu pobl i fynd i’r afael gyda thlodi ac anghydraddoldeb. Mae’r Cyngh. Brocklesby yn angerddol am ffyrdd dŵr Sir Fynwy: mae amddiffyn yr afonydd a’r amgylchedd naturiol  yn flaenoriaeth allweddol iddi.

Dywedodd Cyngh. Mary Ann Brocklesby:

“Rwyf yn cofleidio’r cyfrifoldeb a ddaw gyda’r rôl hon, i wasanaethu pobl Sir Fynwy a gweithio gyda hwy. Fel cyngor Llafur, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb, yn cydnabod ac yn dathlu ein gwahaniaethau oherwydd mae’r datrysiadau sydd yn mynd i elwa pawb yn deillio o’r amrywiaeth cyfoethog hwn… byddwn yn gweithio’n wahanol, yn cydweithio gyda chymunedau, busnesau a’r grwpiau gwirfoddol.

“Drwy gydweithio ag eraill, rydym yn medru mynd i’r afael gyda’r heriau sydd yn wynebu ein sir gan sicrhau ein bod yn gwrando ar bawb, fel ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir ar gyfer sicrhau Sir Fynwy sydd yn fwy gwyrdd, teg a chynaliadwy, gydag economi lle y mae pawb yn llwyddo a’n cael ei werthfawrogi. Byddwn yn gweithio o nawr ymlaen ar sicrhau ein bod yn chwilio am fewnbwn ar draws y Cyngor wrth i ni ddatblygu ein cynllun strategol ar gyfer y term sydd i ddod.”

Bydd ei chyfrifoldebau, ymhlith pethau eraill,  yn cynnwys cynrychioli Sir Fynwy ar Bwyllgor Cyfun Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Strategaeth a Chyfeiriad yr Awdurdod Cyfan, adolygiad  a gwerthusiad o berfformiad yr Awdurdod Cyfan, gweithio rhanbarthol, y berthynas gyda’r Llywodraeth.

Dywedodd yr Arweinydd  sydd yn gadael ei rôl, y Cyngh. Richard John:

“Hoffem longyfarch  Mary Ann ar gae ei hethol yn Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a hi yw’r fenyw gyntaf i ymgymryd â’r rôl, sydd yn dipyn o garreg filltir. Rwy’n dymuno pob lwc iddi hi a’i gweinyddiaeth, a gan nad oes un blaid yn rheoli’r Cyngor, rwy’n gobeithio y bydd pawb yn medru gweithio gyda’i gilydd ar draws y ffiniau gwleidyddol. Bydd fy ngrŵp i yn wrthwynebwyr positif ac adeiladol, yn craffu penderfyniadau a’n gweithio’n galed i ddod o hyd i feysydd lle y gall Llafur, Ceidwadwyr a’r Annibynwyr weithio gyda’i gilydd”

Wedi ethol yr Arweinydd newydd, roedd cyfarfod o’r Cyngor llawn wedi cadarnhau’r swyddi allweddol eraill:

Etholwyd y Cyngh. Paul Griffiths fel Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi a Bywoliaeth Gynaliadwy. Bydd cyfrifoldebau’r Cyngh. Griffiths yn cynnwys: goruchwylio Cynlluniau Datblygu Lleol a Datblygu Strategol, Buddsoddi a   Stiwardiaeth o Gymdogaethau Lleol, Dygnwch Economaidd a Thwf Cynaliadwy, Sgiliau a Chyflogaeth, gan gynnwys swyddi ‘gwyrdd’ a phrentisiaethau, ynghyd â chysylltiadau band-eang y sir yn y dyfodol.

Cyngh. Rachel Garrick – Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau 
Yn gyfrifol am: Cyllid, Technoleg gwybodaeth a digidol, Adnoddau  Dynol, Caffael strategol, tir ac adeiladau, cynnal a chadw a rheoli eiddo a rheoli’r fflyd.

Cyngh.  Martyn Groucutt – Aelod Cabinet ar gyfer Addysg
Yn gyfrifol am: Addysg blynyddoedd cynnar a holl addysg oedran statudol. Anghenion dysgu ychwanegol/cynhwysiant.  Addysg ôl-16 ac ar gyfer oedolion. Dysgu cymunedol. Rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Gwasanaeth Ieuenctid.

Cyngh. Sara Burch – Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw 
Yn gyfrifol am: Strategaeth tai. Digartrefedd, Diogelwch cymunedol. Teithio llesol, Canolfannau hamdden, chwarae a chwaraeon. Gwybodaeth i dwristiaid, amgueddfeydd, theatrau ac atyniadau.

Cyngh. Tudor Thomas – Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch 
Yn gyfrifol am: Gwasanaethau Plant. Maethu a mabwysiadu, Gwasanaeth troseddu ieuenctid, Gwasanaethau Oedolion. Diogelu ar draws yr Awdurdod cyfan (oedolion a phlant). Anableddau, Iechyd meddwl.

Cyngh. Catrin Maby – Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd
Yn gyfrifol am: Datgarboneiddio. Cynllunio trafnidiaeth. Tyfu, bwyta a chaffael bwyd lleol (gan gynnwys  amaeth-goedwigaeth a garddwriaeth leol). Cynllunio’r rhwydwaith traffig, trafnidiaeth gyhoeddus, priffyrdd (gan gynnwys cefnffyrdd), palmentydd a lonydd cefn. Lliniaru llifogydd (gan gynnwys rheoli ac adfer). Rheoli gwastraff, gofalu am strydoedd, sbwriel a mannau cyhoeddus. Cefn Gwlad. Bioamrywiaeth. Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Cyfleusterau Cyhoeddus. Parciau a mannau agored. Safonau Masnach. Iechyd Amgylcheddol. Iechyd cyhoeddus a thrwyddedu.

Cyngh. Catherine Fookes – Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb ac Ymgysylltu 
Yn gyfrifol am: Anghydraddoldebau cymunedol (iechyd, incwm, maetheg, anfantais, gwahaniaethu, arwahanrwydd). Budd-daliadau. Cynllunio at argyfyngau. Yr iaith Gymraeg. Hyrwyddo democratiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Gweithio gyda mudiadau gwirfoddol. Cofrestryddion. Gwasanaethau Etholiadol.  Moeseg a safonau.

%d bloggers like this: