04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sir Gaerfyrddin arwain y ffordd drwy lansio cyfrifiannell ffosffad

CYNGOR Sir Caerfyrddin yw’r awdurdod cynllunio cyntaf yng Nghymru i lansio offeryn rhad ac am ddim i helpu datblygwyr i gyfrifo effaith eu prosiect ar lefelau ffosffad lleol.

Mae ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn rhannau helaeth o Gymru wedi’u dal yn ôl ar hyn o bryd ar ôl i dargedau newydd gael eu cyhoeddi i helpu i leihau lefelau ffosffad afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA).

Mae’r targedau yn seiliedig ar dystiolaeth y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad gan achosi difrod i ecosystemau, rhywogaethau morol a systemau dyfrol.

Rhaid i unrhyw gynigion i ddatblygu mewn dalgylchoedd afonydd ACA brofi bellach na fydd y cynllun yn cyfrannu at gynyddu lefelau ffosffad.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Tywi, Afon Gwy, Afon Teifi ac Afon Cleddau yn ardaloedd cadwraeth arbennig, ac mae’r tair afon olaf yn methu’r targedau ar hyn o bryd.

Rhaid i brosiectau adeiladu sy’n agos at y pedair afon hyn bellach gynnwys mesurau lliniaru i sicrhau y byddant yn niwtral o ran ffosffad neu’n gwella lefelau ffosffad.

Wrth ymateb i’r sefyllfa, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dylunio cyfrifiannell i helpu datblygwyr i ddeall effaith eu cynllun fel y gellir cynnwys mesurau lliniaru priodol yn eu cais cynllunio.

Mae cyfres o ganllawiau lliniaru hefyd yn cael eu llunio i gynorthwyo datblygwyr.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio:

“Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Sir Gaerfyrddin – mae dros 60 y cant o gyrff dŵr yng Nghymru yn methu’r targedau newydd, ac mae llawer o brosiectau adeiladu wedi’u gohirio ar hyn o bryd, ac rydym yn gwybod bod hyn yn rhwystredig i ddatblygwyr.

“Rydym eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu ac wedi’i gwneud yn glir ein bod am gael ateb cyn gynted â phosibl.

“Rydym yn falch felly mai ni yw’r cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a lansio offeryn a fydd yn helpu datblygwyr i gyfrifo a lliniaru effaith eu datblygiadau ar lefelau ffosffad.

“Mae ein cyfrifiannell yn adnodd cwbl rad ac am ddim, wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac rydym yn cynghori’n gryf bod unrhyw un sydd am ddatblygu o fewn dalgylch ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol yn ei defnyddio i gefnogi eu cais.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wedi sefydlu fforwm rhanddeiliaid ynghylch ffosffad i weithio gyda datblygwyr, tirfeddianwyr a phartïon allweddol eraill, i fynd i’r afael â’r mater.

Rydym am weithio gyda phobl i ddod o hyd i atebion sy’n gwella cyflwr ein hafonydd, sy’n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus” ychwanegodd y Cynghorydd Jenkins.

“Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy’n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.”

%d bloggers like this: