03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sir Gaerfyrddin yn cael prif sylw ar y sgrin eto

MAE Sir Gaerfyrddin yn cadarnhau ei henw da fel lleoliad pwysig i’r diwydiant ffilm a theledu.

Yn dilyn llwyddiant y sir fel lleoliad yn y ddrama deledu boblogaidd Un Bore Mercher, y ffilm Bollywood Jungle Cry, a’r ffilm Six Minutes to Midnight sydd wedi’i chyfarwyddo gan Eddie Izzard ac sy’n cael ei rhyddhau’n fuan, mae mwy o griwiau cynhyrchu yn dod i Sir Gaerfyrddin.

Mae Sky wedi cyhoeddi yr wythnos hon eu bod yn cynhyrchu ffilm newydd Sky Original yn Sir Gaerfyrddin, sef ‘Save The Cinema’, a fydd ar gael yn y sinemâu ac ar Sky Cinema tua diwedd 2021.

Mae’r gwaith ffilmio yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin a Rhydaman o dan gyfyngiadau llym Covid-19 a chamau diogelwch o dan arweiniad Sgrin Cymru, deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a chyngor gan Gomisiwn Ffilm Prydain.

Mae’r ffilm wedi’i gosod yn y 90au ac mae’n seiliedig ar stori wir sydd wedi’i hysbrydoli gan fywyd Liz Evans, triniwr gwallt o Gaerfyrddin a alwodd ar Hollywood, gyda chymorth Richard y postmon lleol a ddaeth yn gynghorydd, i achub ei sinema leol pan fu bygythiad i’w chau.

Mae’r cynhyrchiad Sky Original yn cynnwys cast o actorion enwog o Brydain gan gynnwys Samantha Morton (Fantastic Beasts and Where To Find Them), Tom Felton (Harry Potter), Jonathan Pryce (The Two Popes), Adeel Akhtar (Enola Holmes), Erin Richards (Gotham), Owain Yeoman (Emergence), Susan Wokoma (Enola Holmes), Colm Meaney (Gangs Of London), Rhod Gilbert (Have I Got News For You) a Keith Allen (Kingsman: The Golden Circle).

Mae’r lleoliadau ffilmio wedi cynnwys Y Lyric, Heol y Brenin a Heol Spilman yng Nghaerfyrddin, Neuadd y Dref yn Rhydaman, yn ogystal â Thalacharn a Llandeilo.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda chwmnïau ffilm a theledu sydd am ddod â’u cynyrchiadau i’r ardal – nid yn unig i helpu i dynnu sylw at y sir, ond fel y gall busnesau a sector lletygarwch y sir elwa’n economaidd.

Mae’r incwm a gynhyrchir gan y Cyngor trwy roi caniatâd, cau ffyrdd a defnyddio adeiladau cyhoeddus yn cael ei ail-fuddsoddi i ddarparu gwasanaethau lleol i drigolion a busnesau’r sir.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole:

“Mae Sir Gaerfyrddin yn ennill enw da fel lleoliad ar gyfer ffilmiau a dramâu teledu gyda’i hamrywiaeth eang o arfordir a chefn gwlad, nodweddion hanesyddol a thirweddau gwledig a threfol. Rydym yn mwynhau gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu i archwilio cyfleoedd i Sir Gaerfyrddin elwa o gael ei dangos ar y sgrin, a hynny o ran yr hwb economaidd y gall ei roi i fusnesau lleol yn ystod y broses ffilmio ac yn y tymor hir. Wrth gwrs, yn ystod Covid-19 bu’n rhaid i ni sicrhau bod asesiadau risg a gweithdrefnau gwell ar waith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae cwmnïau ffilmio sy’n gweithio yn yr ardal ar hyn o bryd wedi gweithio gyda ni ac wedi dyfalbarhau i sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch angenrheidiol ar waith. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynhyrchiad yn mynd yn ei flaen ac at ei weld ar ein sgriniau yn y dyfodol.”

Mae’n rhaid i unrhyw griwiau cynhyrchu sydd am ffilmio yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 ddilyn gweithdrefnau llym i sicrhau diogelwch y cast, y criw a’r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gwaith o’r fath yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau fel Sgrin Cymru a Chomisiwn Ffilm Prydain fel rhan o’r broses hon.

O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, gall criwiau ffilmio weithio, teithio ac aros yn lleol cyhyd â’u bod yn gwneud hynny fel rhan o gynhyrchiad sydd wedi’i gymeradwyo ac sy’n ddiogel rhag Covid-19.

Gellir ffilmio hefyd ar safleoedd busnes sydd ar gau i’r cyhoedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

%d bloggers like this: