11/13/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sir Gaerfyrddin yn cynnal ras gyffrous Taith Merched Prydain 2022

BYDD Sir Gaerfyrddin yn cynnal cymal pump Taith Merched Prydain 2022 ddydd Gwener 10 Mehefin – sef diwrnod o rasio a fydd yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn gorffen ar ben y Mynydd Du ar ochr orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dyma’r ail dro i Sir Gaerfyrddin gynnal y ras hon ac rydym yn gobeithio sicrhau ei fod yn brofiad bythgofiadwy i bawb. Yn flaenorol cynhaliwyd Grand Départ Taith Dynion Prydain ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yno hefyd y gorffennodd Taith y Merched yn 2019 a phrawf amser i dimau Taith Prydain yn 2021.

Eleni, cymal Sir Gaerfyrddin fydd yr anoddaf o’r ras gyfan a’r unig gymal sy’n gorffen ar ben mynydd yn 2022, felly dyma’ch cyfle i weld beicwyr gorau’r byd yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar ddringfa saith cilometr y Mynydd Du. Neu beth am ymuno â ni yn y man cychwyn ym Mharc Gwledig Pen-bre lle gallwch gwrdd â’r beicwyr cyn iddynt ddechrau’r cymal 105km (65 milltir) a fydd yn mynd drwy Bont-iets, Pontyberem, Llanymddyfri a Llangadog yn ystod y dydd. Disgwylir i 108 o feicwyr gymryd rhan yn y ras a fydd yn cael ei darlledu ar ITV4.

Mae Taith y Merched yn gadael ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn cyd-fynd â diwrnod olaf penwythnos Gŵyl y Banc pedwar diwrnod o hyd yn y DU i ddathlu Jiwbilî Platinwm Brenhines Elizabeth yr II. Bydd y ras yn dod i ben gyda chymal terfynol mawreddog chwe diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin.

Mae modd gweld yr amserlen lawn ar gyfer Cymal Pump ar wefan Taith Merched Prydain, ynghyd â manylion am y cymal, gwybodaeth am feicwyr a thimau, gwybodaeth i wylwyr a lletygarwch.

Llwybr ac amserau’r ras

Mae’r ras yn dechrau am 10.45am ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae angen i bob cerbyd fod y tu mewn i’r parc cyn 10.30am. Mae llawer o leoedd parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre; gofynnir i chi ddilyn yr arwyddion parcio ar gyfer y digwyddiad. Bydd pobl yn gallu gwylio dechrau’r ras drwy ymgynnull yn y Cae Saethyddiaeth. Gallwch wylio’r beicwyr yn gwneud lap o’r gylchffordd gaeedig, yn mynd heibio i Yr Orsaf a gwneud un lap o’r parc cyn gadael y gylchffordd gaeedig. Sylwer, ni fydd mynediad i’r parc ar ôl 10.30am tra bydd y ras yn dechrau.

Bydd y beicwyr sy’n cystadlu am y teitl yn mynd drwy (amseroedd bras) Pinged (11.06), Carwe (11.16), Pontyberem (11.42), Horeb (12.15), Llansawel (12.42), Siloh (13.05), Llangadog (13.27).

Bydd timau’n cyrraedd diwedd y ras ar y Mynydd Du o tua 13.45 ymlaen, a disgwylir i bob beiciwr orffen erbyn tua 2.30pm.

Mae croeso i bobl wylio’r ras ar hyd y llwybr, ond cymerwch ofal ychwanegol gan y bydd y ras yn teithio ar gyflymder uchel.

%d bloggers like this: