12/06/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Staff ambiwlans i rannu profiadau Covid-19 yng nghyfarfod Bwrdd

BYDD staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sy’n gweithio ar reng flaen pandemig Covid-19 yn rhannu eu profiadau yng nghyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolaeth.

Bydd cydweithwyr sydd wedi cael y feirws a’i oresgyn yn dweud eu hanes nhw hefyd yn y cyfarfod Bwrdd rhithiol nesaf ddydd Iau, 28 Ionawr 2021. Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd.

Dywedodd Martin Woodford, Cadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae clywed profiadau uniongyrchol, un ai gan staff neu gleifion, yn bwysig i ni fel Bwrdd oherwydd, ynghanol y broses siapio polisïau a gwneud penderfyniadau, mae’n cadw pobl wrth graidd yr hyn rydym ni’n ei wneud.

“Wrth i goronafeirws barhau i dynhau ei afael, rydym ni’n awyddus i glywed am brofiadau cydweithwyr er mwyn dysgu o hynny, nid yn unig fel sefydliad ond fel cymdeithas.”

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cynnal ei gyfarfodydd Bwrdd deufisol yn rhithiol ar-lein yn ystod y pandemig, ac mae croeso i unrhyw un wylio’r cyfarfodydd.

Cliciwch yma i gofrestru lle yn y cyfarfod Zoom, sy’n dechrau am 9.30am, neu bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar dudalen Facebook yr Ymddiriedolaeth.

Os oes gennych chi gwestiwn i’r Bwrdd fel rhan o’i sesiwn holi ac ateb, cyflwynwch y cwestiwn ymlaen llaw, os gwelwch yn dda, trwy neges e-bost i AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021, fan bellaf.

Bydd agenda’r cyfarfod ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn fuan iawn.

Ychwanegodd Martin:

“Er ein bod wedi cwtogi busnes y Bwrdd yn fwriadol y mis hwn oherwydd y pandemig, bydd yr agenda yn cynnwys ystod o adroddiadau perfformiad rheolaidd, yn ogystal ag asesiad o lywodraethiant y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan Archwilio Cymru.”

%d bloggers like this: