12/03/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“MAE ein merched yn rhan fawr o’n teulu ac mae’r ddau ohonom mor falch gyda’r hyn y maent wedi’i gyflawni yn y pedair blynedd ers iddynt fyw gyda ni”. Dyma sut disgrifiodd Rebecca, gofalwr maeth o Gastell-nedd Port Talbot, y rhan fwyaf gwobrwyol o’i rôl.

Eleni, mae oddeutu 300 o blant yn derbyn gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae nifer ohonynt yn frodyr a chwiorydd.

Fel rhan o ymgyrch Castell-nedd Port Talbot i recriwtio rhagor o ofalwyr, mae Rebecca wedi rhannu ei phrofiad a’i thaith o ran maethu brodyr a chwiorydd.

Mae Rebecca, gyda’i gŵr Keith, wedi bod yn ofalwr maeth ers symud yn ôl o Lundain, lle’r oedd hi’n gweithio fel nani.  Cawsant eu rôl ofalu gyntaf ym mis Medi 2016, ar gyfer chwiorydd a oedd yn bedair ac yn bump oed – cyrhaeddon nhw ar drefniant lleoliad brys ac yna cawsant eu paru gyda Rebecca a Keith ar sail tymor hir.

Mae cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd bob amser yn flaenoriaeth i Dîm Maethu’r cyngor gan y gall gynnig cefnogaeth ychwanegol i blentyn a lleihau teimladau o unigrwydd.

Meddai Rebecca:

“I fi, mae’n rhywbeth pwysig i’w wneud gan nad yw plant sy’n dod yn rhan o’r system faethu yn deall yn iawn yr hyn sy’n digwydd, a pham eu bod, yn sydyn iawn, yn aros yng nghartref dieithryn. Rwy’n meddwl bod cael brawd neu chwaer gyda nhw yn eu helpu yn emosiynol gan nad ydynt yn teimlo mor unig wedyn, ac mae rhyw fath o normalrwydd ganddynt o hyd.”

Er y gall maethu fod yn rôl heriol, mae hefyd yn rhoi boddhad mawr. Gall maethu fod yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd person ifanc.

Gan drafod boddhad y rôl, meddai Rebecca:

“Heb os nac oni bai, yr hyn dwi’n ei fwynhau yw eu gweld yn cyrraedd eu cerrig milltir, hyd yn oed os yw wedi cymryd amser hwy iddynt wneud hynny. Reidio beic, darllen ac ysgrifennu, gallu gwneud ffrindiau a chymdeithasu.

“Pan ddaeth ein merched i fyw gyda ni, roedd yn rhaid i ni eu goruchwylio drwy’r amser oherwydd problemau ymddygiad ac ymlyniad. Felly, mae clywed gan ein ffrindiau, ein teulu a’r athrawon ysgol fod y merched wedi newid cymaint ers bod yn ein gofal yn gyflawniad mawr i ni. Rydym yn teimlo ein bod wedi gwneud gwaith da.  Mae’n bwysig i ni fod y plant yn byw bywyd mor ‘normal’ â phosib yn hytrach na chael eu hystyried fel plant maeth.”

Derbyniodd Rebecca a Keith hyfforddiant a chefnogaeth lawn gan Dîm Maethu’r cyngor drwy gydol y broses, o’r penderfyniad cyntaf i wneud cais nes y diwrnod y daeth eu plentyn maeth cyntaf i aros gyda nhw.

“Roedd y Tîm Maethu’n gefnogaeth fawr i ni, ac maent yn ein cefnogi o hyd.

“Cawsom ymweliadau rheolaidd gan y gweithiwr cymdeithasol a gwblhaodd ein hasesiad, ac nid yw hynny’n cynnwys y galwadau ffôn y cawsom hefyd.  Roedd yr hyfforddiant yn wych, ac yn dangos i ni y byddai heriau yn ystod y lleoliadau, ond cawsom gyngor ar sut i oresgyn yr heriau a chawsom sicrhad bod cefnogaeth ar gael i ni bob amser.

Mae llawer i’w ystyried cyn penderfynu dod yn ofalwr maeth.

Pan ofynnom i Rebecca pa gyngor y byddai’n ei roi i rywun sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth, dywedodd:

“Os ydych chi wir am wneud hyn, ewch amdani! Mae’r “swydd” hon mor werth chweil ac ni allaf ddychmygu gwneud unrhyw beth arall.

“Nid gofalu am y plant yw’r unig beth y mae’n rhaid i chi ei wneud; mae adolygiadau PDG (plant sy’n derbyn gofal), goruchwylio rheolaidd, cyfarfodydd a chyswllt â gweithiwr cymdeithasol y plant, ond mae’n hawdd rheoli popeth os ydych chi’n drefnus.

“Mae digon o gefnogaeth ar gael felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae digon o ofalwyr eraill sydd ar gael i roi cyngor i chi. Mae hyfforddiant yn barhaus felly gallwch ddewis pa gyrsiau sy’n addas i chi a gallwch gwblhau rhai ohonynt ar-lein yn eich amser eich hun.

“I orffen, bydd gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn cael ei neilltuo i chi a gallwch siarad â nhw os oes gennych unrhyw broblemau neu bryderon. Mae ein gofalwr maeth yn anhygoel, mor gefnogol ac rydym yn teimlo fel ei fod yn rhan o’n teulu hefyd!”

Unrhyw un a diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Maethu ar 01639 685866 neu e-bostiwch fostering@npt.gov.uk Fel arall, cymerwch gip ar yr wybodaeth ar eu gwefan: www.npt.gov.uk/maethu

%d bloggers like this: