04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sut fyddech chi’n cael gwared ar hen gyllell cegin?

DYNA yw’r cwestiwn gan Heddlu Dyfed-Powys yn ystod wythnos genedlaethol o weithredu ar gyfer mynd i’r afael â throseddau cyllyll.

Mae’r ymgyrch, sef Ymgyrch Sceptre, yn rhedeg o 16 – 22 Medi ac mae’n anelu i gael gwared ar gyllyll a llafnau, ac ar yr un pryd, cynyddu ymwybyddiaeth am beryglon cario cyllyll.

Yn ystod yr wythnos, mae pobl yn cael eu hannog i adael cyllyll diangen mewn biniau amnest mewn gorsafoedd heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae’r heddlu hefyd eisiau i bobl wybod sut i gael gwared ar lafnau a chyllyll yn ddiogel y tu allan i’r cyfnod amnest, ac yn annog unrhyw un sy’n gysylltiedig â chliriad tŷ, neu’r rhai a fyddai’n ystyried gadael cyllyll mewn siop elusen, i fynd â nhw i ganolfan ailgylchu yn lle hynny er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel.

Dywedodd Tim Davies, Arolygydd ar gyfer gweithrediadau arbenigol: “Dyfed-Powys yw’r lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, o hyd, ac wrth lwc, dydyn ni ddim yn wynebu’r lefel o droseddau cyllyll mae ardaloedd eraill yn gweld. Ar gyfer yr ymgyrch hon, rydyn ni’n newid ein hymagwedd er mwyn canolbwyntio ar gadw cyllyll a allai deithio i ardaloedd eraill allan o ddwylo troseddwyr.

“Gall fod yn anodd gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud â hen gyllell pan rydych chi’n prynu set newydd, neu’n eu hetifeddu gan berthynas. Rydyn ni eisiau i unrhyw un sy’n gysylltiedig â chliriadau tŷ, pobl â pherthnasau oedrannus, a siopau elusen, i wybod eu bod nhw’n medru mynd â chyllyll diangen neu gyllyll maen nhw wedi’u derbyn i’r tip.”

Mae’r heddlu hefyd yn annog ymagwedd synnwyr cyffredin tuag at werthu cyllyll a llafnau, ar ôl iddynt dderbyn llafnau cerdyn credyd yn ystod yr amnest diwethaf ym mis Mawrth 2019.

Pan ymwelodd swyddogion â siop yn Hwlffordd, cyflwynwyd blwch iddynt a oedd yn cynnwys 42 o eitemau plastig du tua maint cerdyn credyd. Wrth agor y cerdyn, datgelwyd llafn cudd yr oedd modd ei gloi mewn lle. Mae’n anghyfreithlon cario cyllyll â llafn y gellir ei gloi, felly cymerodd swyddogion yr eitemau i ffwrdd i gael eu difa.

Dywedodd yr Arolygydd Tim Davies: “Mae’n gyfreithlon gwerthu sawl math o lafn, er bod eu diben yn amheus. Byddwn ni’n gweithio gyda masnachwyr er mwyn trafod y gyfraith, a’r hyn sy’n synhwyrol.

“Byddwn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid er mwyn atgyfnerthu’r neges am beryglon cario cyllyll ymysg pobl ifainc.

“Mae cario cyllell yn drosedd sydd hefyd yn creu’r perygl ychwanegol y gallai mater bychan dyfu’n rhywbeth llawer mwy difrifol a allai o bosibl newid cwrs bywyd.

“Gall y niwed a achosir gan gyllyll, nid yn unig i’r dioddefwyr a’u teuluoedd, ond hefyd i’r gymuned ehangach, fod yn enbyd. Byddwn yn gwneud pob peth y gallwn i gadw cyllyll allan o’r dwylo anghywir.

“Er nad yw Dyfed-Powys wedi gweld y lefelau uchel o ddigwyddiadau’n gysylltiedig â chyllyll a welwyd gan heddluoedd eraill, byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr yn heddluoedd ar draws Prydain drwy gymryd rhan yn Ymgyrch Spectre.

“Mae gan ein heddlu gyfradd troseddu is na’r cyfartaledd cenedlaethol – yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, bu 31 trosedd yn ymwneud â chyllyll fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Nyfed-Powys. Ledled Cymru, mae’r ffigwr hwn yn sefyll ar 37, ac ym Mhrydain, bu 69 o droseddau cyllyll fesul 100,000 o bobl yn ystod yr un cyfnod.”

I gael mwy o wybodaeth ynghylch Ymgyrch Spectre a’r cyfreithiau ynghylch cario cyllyll, ewch at www.dyfed-powys.police.uk.

Galwch heibio i wefan eich cyngor lleol er mwyn dod o hyd i’r ganolfan ailgylchu agosaf:

· Cyngor Sir Gaerfyrddin: https://www.carmarthenshire.gov.wales

· Cyngor Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/

· Cyngor Sir Benfro: https://www.pembrokeshire.gov.uk/

· Cyngor Powys: https://www.powys.gov.uk/

Bydd biniau ildio cyllyll yn y gorsafoedd heddlu canlynol rhwng 16 a 22 Medi:

Gorsaf

Oriau Agor

Gorsaf Heddlu Llanelli

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu Caerfyrddin

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu Rhydaman

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.

Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu Hwlffordd

Dydd Llun i ddydd Gwener , 8y.b. tan 5y.h.

Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 1y.h.

Gorsaf Doc Penfro

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu Aberystwyth

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.

Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h.

(Ar gau o 1y.h. tan 1.40y.h.)

Gorsaf Heddlu Aberystwyth

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. (Ar gau o 1y.h. tan 1.40y.h.)

Gorsaf Heddlu Aberhonddu

Dydd Llun i ddydd Sul, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu’r Drenewydd

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.

Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h.

Gorsaf Heddlu Llandrindod

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h.

%d bloggers like this: