03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sut i leihau faint o fwyd a wastraffir

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Wythnos Gweithredu dros Wastraff Bwyd (1-7 Mawrth) drwy amlygu i breswylwyr sut y gallant leihau faint o fwyd a wastraffir ganddynt.

Gyda ‘Gwastraffu Bwyd yn Bwydo Newid yn yr Hinsawdd’ fel thema digwyddiad eleni, mae’n anelu at gysylltu sefydliadau ar draws y gadwyn gyflenwi i helpu i atal bwyd rhag cael ei wastraffu.

Dengys ystadegau gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff (LFHW), sydd y tu ôl i’r wythnos gweithredu, pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai ganddi’r ôl troed carbon mwyaf ond dwy ar ôl yr UDA a Tsieina.

Yng nghartrefi’r DU, gwastraffir 4.5 tunnell o fwyd bwytadwy bob blwyddyn – digon i wneud 10m o brydau bwyd. Bob dydd, taflir 20m o dafelli o fara ac oddeutu 3m o wydrau o laeth. Dywed LFHW y gallai’r teulu cyffredin arbed £720 y flwyddyn pe baent yn rhoi’r gorau i daflu bwyd.

Mae sawl ffordd o wneud yn siŵr bod llai o’r bwyd a brynwn yn cael ei wastraffu. Awgryma LFHW y cynghorion canlynol:

Gwirio cyn prynu: Gwnewch nodyn o’r hyn sydd yn eich cypyrddau cyn mynd i siopa, fel nad ydych byth yn prynu mwy nag sydd ei angen arnoch;

Oeri eich oergell:Cadwch eich oergell o dan bum gradd fel bod eich bwyd yn para’n hirach;

Bwyta popeth: Bwytewch bob rhan o’r bwyd, fel croen tatws a choesynnau blodfresych;

Coginio’n greadigol: Ewch i wefan LFHW (External link – Opens in a new tab or window) am ysbrydoliaeth a syniadau am ryseitiau ar gyfer defnyddio sbarion;

Dim ond dyddiad ydyw: Mae ‘Defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch – ni ddylid bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn (hyd yn oed os yw’n edrych/arogleuo’n iawn) – tra mae ‘Ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd (er na fydd bwyd ar ei ansawdd orau ar ôl y dyddiad hwn, mae’n dal yn ddiogel i’w fwyta am gryn amser); a hefyd

Hambyrddau ciwb iâ – arwr y rhewgell: Gormod o laeth, dim digon o amser? Arllwyswch y llaeth sydd gennych dros ben i mewn i hambyrddau ciwb iâ a’i rewi – dyma’r swm delfrydol ar gyfer cwpaned o de. Gallwch ddefnyddio hambyrddau ciwb iâ i rewi perlysiau ffres hefyd. Torrwch nhw’n fân, eu dodi yn yr hambwrdd, ac arllwyso olew drostynt, ac yna bydd gennych dameidiau hawdd i’w hychwanegu at y sosban y tro nesaf rydych yn coginio.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams:

Gall pawb ohonom wneud newidiadau bach sy’n helpu i osgoi gwastraffu arian ar fwyd heb ei fwyta wrth fod o fudd i’r blaned ar yr un pryd. Ni ellir bwyta rhai eitemau gwastraff bwyd penodol, ond gellir eu hailgylchu – gellir rhoi eitemau fel bagiau te, plisgyn wy ac esgyrn cig yn y biniau ailgylchu gwastraff bwyd brown. Os yw bwyd yn diweddu mewn safle tirlenwi, mae’n pydru ac yn cynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr dinistriol.

Ond fel y dangosir gan y cynnydd o 869 tunnell rhwng Ebrill 2020 ac Ionawr 2021 o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019-20, mae’r rhan fwyaf o breswylwyr lleol eisoes yn ailgylchu eu gwastraff bwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bob mis, mae ein partneriaid gwastraff Kier yn casglu cyfartaledd o fwy na 745 tunnell o wastraff bwyd, a chredir bod y cynnydd yn rhannol o ganlyniad i’r cynnydd yn y nifer o bobl sy’n gweithio gartref.

I’w osgoi rhag mynd i safle tirlenwi, caiff bwyd lleol ei drin yn Safle Treulio Anaerobig Severn Trent yn Stormy Down, lle caiff ei drawsnewid yn drydan i bweru cartrefi ac i gynhyrchu gwrtaith y gellir ei ddefnyddio ym myd ffermio. Hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu hymdrechion ac ymrwymiad i ailgylchu, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosib yn cymryd rhan yn Wythnos Gweithredu dros Wastraff Bwyd.

Dywedodd Marcus Gover, Prif Swyddog Gweithredol Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau:

“Mae gwastraffu bwyd yn un o brif achosion newid yn yr hinsawdd, ac mae’n cynhyrchu mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr na’r holl hediadau masnachol yn y byd.

“Gwyddom drwy ein hymchwil fod yr argyfwng hinsawdd yn bwysig i bobl, felly mae hyn yn rhywbeth y gallwn – ac sy’n rhaid i ni – weithredu drosto gyda’n gilydd.

“Mae’n bryd canolbwyntio ar arbed un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr yn hytrach na chynhyrchu nwyon tŷ gwydr drwy gynhyrchu bwyd na chaiff fyth ei fwyta.”

Gall preswylwyr ddysgu mwy am ailgylchu neu ofyn am gynhwysydd gwastraff bwyd neu fagiau y gellir eu compostio ar y wefan cyngor.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Wythnos Gweithredu dros Wastraff Bwyd, ewch i wefan LFHW 

%d bloggers like this: