03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru yn ”chwarae rhan bwysig” ystod Coronafeirws

MAE Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan rwydwaith o swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl o Gymru. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys helpu’r rheini sydd dramor, drwy gyfnod argyfwng y coronafeirws.

Mae swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwarae rhan bwysig yn ailwladoli dinasyddion o Gymru. Mae staff yn y Dwyrain Canol ac yn India wedi cefnogi dinasyddion o Gymru yn eu rhanbarthau. Ymhlith y rheini a gafodd eu cefnogi oedd Dr Venkat Sundaram, meddyg ymgynghorol mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd, a gafodd ei gynorthwyo i drefnu’r daith adref o India.

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i’r Senedd heddiw, yn amlinellu rhai o’r heriau wrth geisio cael cyfarpar diogelu personol (PPE) o dramor – o ystyried bod dros 80 o wledydd wedi cyfyngu ar allforio rhai cynhyrchion allweddol. Mewn rhai gwledydd, mae’r cyfyngiadau symud difrifol yn ei gwneud yn anodd i symud cynhyrchion o ffatrïoedd i feysydd awyr. Mae rhwydwaith swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru yn defnyddio’u perthynas â llywodraethau rhanbarthol i sicrhau bod cyflenwyr PPE yn gallu cysylltu gyda tîm caffael Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i leoli yng Nghymru.

Mae rhan helaeth o gyllideb ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol, a oedd wedi’i neilltuo i dalu am weithgareddau fel teithiau masnach, wedi’i ryddhau i gefnogi brwydr Cymru yn erbyn y coronafeirws – drwy Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 Llywodraeth Cymru, sy’n £500m.

Ar ben hynny, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ystod pandemig y coronafeirws. Bydd Cysgliad, pecyn meddalwedd sy’n cynnwys rhaglenni gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg, ar gael am ddim am y tro cyntaf i unigolion a busnesau bach erbyn diwedd y mis hwn. Mae hynny’n rhan o bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor. Bydd y datblygiad o gymorth arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae cwrs newydd ar-lein ar gyfer dysgwyr Cymraeg, sy’n cael ei gynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi cael mwy na 2,900 o bobl yn mynegi diddordeb ynddo hefyd, a mwy na 1,000 wedi dechrau cwrs Cymraeg. Cafodd y cwrs ei sefydlu i lenwi bwlch addysgu Cymraeg, gan fod dosbarthiadau wyneb yn wyneb wedi dod i ben dros dro oherwydd y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddomestig a rhyngwladol fawr ar bob agwedd ar fy mhortffolio. Mae staff Llywodraeth Cymru dramor wedi helpu i gefnogi dinasyddion o Gymru, gan gynnwys y rheini na allen nhw ddychwelyd adref. Rydyn ni hefyd wedi bod yn meithrin cysylltiadau â busnesau tramor i helpu i gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol.

“Mae ein swyddfeydd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau ein bod yn dysgu o brofiad gwledydd eraill o godi cyfyngiadau symud. Gall edrych ar y ffordd y mae gwledydd eraill yn mynd ati i agor eu hysgolion, eu siopau a’u gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â dysgu am brofi ac olrhain, fod yn fap defnyddiol ar gyfer sut y gallai Cymru godi ei chyfyngiadau symud.

“Rwy hefyd yn ymwybodol bod rhagor o bobl o Gymru sy’n parhau i angen ein cymorth, ac rwy’n eu hannog i gysylltu â mi, er mwyn imi fynd ati i weithio ar eu hachosion gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

“Gan wisgo fy het arall ar gyfer y Gymraeg, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau cefnogaeth i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Felly mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y rhaglen ‘Cysgliad’ nawr ar gael yn rhad ac am ddim i unigolion a busnesau bach. Mae Cysgliad yn offeryn gwerthfawr i wirio gramadeg a hefyd geiriadur i helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. “

%d bloggers like this: