03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Syniadau i wahardd gwerthu diodydd egni i rai dan 16 oed

GWAHARDD gwerthu diodydd egni i rai o dan 16 oed a chyfyngu ar y siopau tecawê bwyd poeth ger ysgolion yw dau o blith y syniadau newydd i wella iechyd pobl ifanc ac atal cyfraddau gordewdra rhag cynyddu yng Nghymru.

Mae’r cynnydd mewn cyfraddau yfed diodydd egni uchel mewn caffein ymhlith pobl ifanc hefyd yn arwain at bryderon am yr effaith ar eu haddysg.

Siaradodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle gyda disgyblion ac athrawon yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd am y syniadau newydd ar gyfer deddfwriaeth sy’n destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chyfraddau cynyddol o ordewdra yng Nghymru.

Mae hi hefyd yn dymuno clywed barn pobl ar gyfyngu ar yr hawl i hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen, atal ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim ac ehangu’r arfer o gyhoeddi calorïau ar fwydlenni.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 1 Medi 2022.

Yng Nghymru, mae oddeutu 1.5 miliwn o oedolion yn ordrwm ac mae 600,000 o bobl yn ordew. Yn ogystal, mae mwy nag un o bob pedwar o blant yng Nghymru yn ordrwm neu’n ordew pan maent yn dechrau yn yr ysgol gynradd. Amcangyfrifir bod gordewdra yn costio £6.1 biliwn i’r GIG bob blwyddyn ar draws y DU.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, Lynne Neagle:

“Rydym eisiau clywed barn pobl am sut y gallwn gefnogi’r genedl i fod yn iachach a lleihau nifer y bobl sy’n ordew ne’n ordrwm. Yn aml, mae bwydydd llawn siwgr neu fwydydd sy’n uchel mewn braster neu halen ar gael yn haws ac yn cael eu hyrwyddo’n ehangach, sy’n ei gwneud yn anoddach i bobl wneud y dewis iach.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i bobl, gyda chostau byw cynyddol uchel yn rhoi pwysau enfawr ar bobl yn ariannol. Fodd bynnag, gwyddom hefyd os bydd y tueddiadau gordewdra yn parhau, y bydd mwy o bobl yng Nghymru yn marw cyn eu hamser o ganser, clefyd y galon, clefyd yr afu a diabetes math 2. Mae angen inni gael sgwrs agored a gonest am sut y gallwn newid ein dewisiadau a’n hymddygiadau yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys gwrthdroi materion arwyddocaol sydd wedi datblygu dros genedlaethau yn ein hamgylchedd bwyd. Rwy’n lansio’r ymgynghoriad heddiw i ddechrau’r sgwrs hon.”

Mae’r Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol diweddaraf yn dangos bod pobl yn bwyta gormod o siwgr, braster dirlawn a halen, a gormod o galorïau, ond dim digon o ffeibr, ffrwythau a llysiau. Mae’r arolwg yn dangos bod pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed yn bwyta hyd at dair gwaith y cyfanswm o siwgr a argymhellir.

Fel rhan o’r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, y strategaeth hirdymor i atal a lleihau gordewdra, mae Llywodraeth Cymru heddiw yn ymgynghori ar wahardd gwerthu diodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed. Mae rhai diodydd egni yn cynnwys 21 llwy de o siwgr a’r un faint o gaffein â thair cwpanaid o goffi. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n yfed o leiaf un ddod egni bob wythnos yn fwy tebygol o roi gwybod am broblemau fel cur pen, problemau cwsg a phroblemau stumog yn ogystal â thymer isel ac anniddigrwydd. Mae tystiolaeth hefyd sy’n cysylltu yfed diodydd egni yn rheolaidd gydag ymrwymiad isel mewn addysg.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn sut y gall ein cymunedau fod yn amgylcheddau iachach. Mae’n awgrymu y dylai’r broses gynllunio ar gyfer siopau tecawê bwyd poeth ystyried pa mor agos ydynt at ysgolion a cholegau ac y dylid sicrhau bod y broses yn ystyried ac yn adlewyrchu ar ffactorau fel y nifer o siopau sydd yno ar hyn o bryd, cyfraddau gordewdra yn lleol a demograffeg gymdeithasol.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog

“Mae’n amlwg nad yw plant ac oedolion yng Nghymru yn bwyta deiet gytbwys. Rydym wedi syrthio i batrwm lle mae bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen ar gael yn hawdd.

Mae ymddygiadau dietegol yn ein plentyndod yn cael dylanwad sylweddol ar beth a sut rydym yn bwyta ac yn yfed yn nes ymlaen yn ein bywydau. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc a sut y gall yr amgylchedd ger eu hysgolion a’u colegau gael effaith enfawr ar sut maent yn bwyta. Roedd yn bleser cwrdd â’r bobl ifanc yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd i glywed eu barn a’u safbwyntiau, a oedd yn ddiddorol dros ben.

Byddai’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cefnogi iechyd a llesiant hirdymor ein cenedl. Os byddwn yn parhau fel yr ydym yn awr, yn anffodus bydd effaith niweidiol ar ragor o fywydau o ganlyniad i salwch, yn gorfforol ac yn feddyliol.”

 

%d bloggers like this: