10/11/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rebecca Evans AS

DAETH Gweinidogion Cyllid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ynghyd yng Nghaerdydd heddiw, a’r prif bwnc trafod oedd sut i gefnogi pobl a busnesau wrth i filiau barhau i godi. Mae prisiau bwyd, tanwydd, ynni, dillad, costau teithio a rhenti yn parhau i gynyddu wrth i chwyddiant godi. Ac mae OFGEM wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd cynnydd pellach o tua £800 y flwyddyn mewn biliau ynni ym mis Hydref. Mae pryderon cynyddol am effaith yr argyfwng ar iechyd a lles unigolion. Bu Gweinidogion Cyllid y DU yn trafod beth arall y gellir ei wneud i helpu pobl i ymdopi â'r argyfwng, a hynny mewn mewn cyd-bwyllgor sy'n...