03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Taith Gerdded yr Wythnos yn ail-ddechrau yng Ngheredigion

BYDD cyfredd o bosteri ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd dros fisoedd yr haf.

Byddant yn cael eu rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor Sir Ceredigion, bydd llwybrau hir a byr yn cael eu cynnig mewn mannau ledled y sir felly fe ddylai fod rhywbeth i bawb i fwynhau.

Clogwyni uchel, cilfachau cysgodol, cymoedd coediog, bryniau ymdonnog, dyffrynnoedd glas, nentydd parablus – a’r rhain oll yn gyforiog o fywyd gwyllt ac yn rhan o dirwedd lle mae pobl yn byw a gweithio. Gellir hefyd ychwanegu trefi, pentrefi a ffermydd sydd oll yn cyfrannu at swyn Ceredigion i drigolion y sir ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Drwy lwc, mae dros 2500km o Lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cyd-blethu ledled y sir. Maent yn cynnig mynediad i’r rheiny sydd am fentro allan ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl i fannau a fyddai fel arall o’r golwg.

Yn ogystal ag esgidiau cadarn sy’n dal dŵr, argymhellir bod preswylwyr yn gwisgo dillad sy’n briodol i’r tywydd ac i ddod â glanweithdra dwylo, dŵr yfed a map OS diweddar o’r ardal. Atgoffir preswylwyr i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill ac i fod yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Gall cerddwyr gael copi e-daflen o’r llwybrau i helpu i’w harwain ar eu ffordd sydd ar gael o’r Adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â thref, pentref neu bentrefan ac yn dangos gwybodaeth ychwanegol megis proffil o’r llwybr, y pellter, sut wyneb sydd i’r llwybr, mannau parcio cyfleus ac a oes cyfleusterau eraill wrth law. Yn ogystal â’r e-daflenni, mae map rhyngweithiol ar gael sy’n dangos yr holl Lwybrau Tramwy Cyhoeddus fel bod modd i ddefnyddwyr gynllunio eu hanturiaethau eu hunain.

Atgoffir y sawl sy’n defnyddio Llwybrau Tramwy Cyhoeddus fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Côd Cefn Gwlad drwy’r amser.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio:

“Mae gan Geredigion gymaint o deithiau cerdded i’w cynnig. Bydd hyrwyddo gwahanol lwybrau bob pythefnos nid yn unig yn annog twristiaid i ymweld ond hefyd yn annog pobl leol i fynd i archwilio safleoedd prydferth Ceredigion.”

 

 

%d bloggers like this: