03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Taliad costau byw gwerth £150 i 330,000 o aelwydydd

MAE mwy na £50m wedi’i roi i aelwydydd yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Mae taliad costau byw gwerth £150 eisoes wedi’i roi i 332,710 o aelwydydd.

Dechreuwyd dyrannu’r taliadau ym mis Ebrill, a bydd mwy o bobl yn cael eu taliad o £150 yn yr wythnosau sydd i ddod.

Mae’r cynllun gwerth £152m yn cael ei weithredu gan awdurdodau lleol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r gefnogaeth yn cael ei rhoi i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau’r dreth gyngor A i D, yn ogystal â phob aelwyd sy’n cael cefnogaeth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, waeth beth fo’u band y dreth gyngor.

Bydd taliadau yn cael eu gwneud fel taliad unigol yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobl os oes gan yr awdurdod lleol yr wybodaeth honno. Pan nad oes gan yr awdurdod lleol y manylion hyn, bydd angen i aelwydydd cymwys gwblhau ffurflen gofrestru syml. Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu â phob aelwyd cymwys i ofyn am y manylion angenrheidiol.

Ar wahân i hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu cronfa ddewisol gwerth £25m i awdurdodau lleol. Bydd hyn yn galluogi i gynghorau i helpu pobl y maent yn ystyried bod angen cymorth arnynt gan roi cefnogaeth yn ôl disgresiwn, fel yr ystyrir yn briodol, er mwyn mynd i’r afael ag anghenion lleol.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae’r taliad hwn yn sicrhau cymorth angenrheidiol i aelwydydd Cymru, gan helpu pobl i ymdopi ag amgylchiadau sy’n fwyfwy heriol.

Bydd biliau cynyddol a phrisiau sy’n codi yn tynhau’r arian sydd gan bobl ac yn eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd. Mae’r taliad £150 hwn yn un ffordd rydyn ni’n lleddfu ychydig ar y pwysau hwnnw.

Mae’r cynghorau yng Nghymru wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng hwn a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion i roi’r cynllun hwn ar waith.

Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i roi cefnogaeth, ond mae llawer o’r dulliau allweddol ar gyfer newid – yn bwysicaf oll ynghylch cymorth lles – yn San Steffan. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymuno â ni i sicrhau ymateb llawn i’r argyfwng, gan roi cefnogaeth ar frys i bobl.”

Mae’r taliad costau byw o £150 yn rhan o becyn cymorth ehangach gwerth £380m sydd hefyd yn rhoi cefnogaeth, gan gynnwys taliadau tanwydd gaeaf a chymorth brys drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau partner er mwyn rhoi cymorth wedi’i dargedu i helpu pobl i ddelio â’r argyfwng costau byw. Rwy’n gwybod y bydd pobl yn bryderus ac mae’n bwysig bod pawb yn gwybod bod cefnogaeth ar gael. Mae’r ymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn gymorth i roi gwybod i bobl pa gefnogaeth sydd ar gael. Byddai’r ymgyrch hon yn fan cychwyn da i unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn â’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.”

%d bloggers like this: