03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Talwyd teyrngedau i Arlywydd Cynghrair Cyfeillion Glangwili

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn talu teyrnged i un o hoelion wyth Ysbyty Glangwili am yr effaith gadarnhaol a gafodd ar y gwasanaeth iechyd lleol.

Roedd June Beer, a fu farw’r wythnos diwethaf, yn Llywydd oes Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili am y 12 mlynedd diwethaf.

Ymunodd a’r gynghrair yn fuan ar ôl ei sefydlu ym 1948 ac am bron 70 mlynedd cododd filoedd o bunnoedd trwy weithgareddau codi arian ac arweinyddiaeth bwrpasol. Roedd June a’i gwr Raymond, a fu farw yn 2013, yn ymroddedig i’w gilydd a’u cymuned.

Hyd at y llynedd, roedd y gynghrair wedi gwario mwy na £1,700,000 ar offer a chefnogaeth ar gyfer ysbyty Caerfyrddin, gan gyfrannu at ofal a thriniaeth pobl leol o’u genedigaeth hyd at oedran hyn ac ar ddiwedd oes.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Maria Battle: “Er na chefais y fraint o gwrdd â Mrs Beer fy hun, rwyf wedi gwrando ar rai o’n staff am y cyfraniad anhygoel a wnaeth i’n gwasanaeth iechyd a’n cymuned leol. Rhoddodd ei hamser a’i sgiliau yn anhunanol ac yn helaeth ac mae ein gwasanaeth iechyd gwladol wedi elwa’n aruthrol o hyn, ac rydym wirioneddol ddiolchgar amdano.”

Yn 2011 dyfarnwyd medal Order of Mercy i Mrs Beer am ei gwaith gwirfoddol gyda’r gynghrair cyfeillion. Roedd hi hefyd berfformiwr ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Operatig Amatur Caerfyrddin ac yn ymwneud ag achosion elusennau eraill trwy Bwyllgor Elusen y Maer.

Dywedodd Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Euryl Howells: “Mae’n ddigon posib bod staff, cleifion ac ymwelwyr yn cofio June o’r Gwasanaeth Carolau Nadolig rheolaidd yn yr ysbyty neu o’r nifer o ddigwyddiadau codi arian a fferi y bu hi’n eu gweinyddu er mwyn codi arian hanfodol i gefnogi’r GIG a chleifion lleol. Roedd ei sêl a’i hymrwymiad i’r gymuned gyfan yn wych a bydd colled fawr ar ei hol.”

Bydd angladd Mrs Beer ddydd Gwener, Medi 3, yn Eglwys Gynulleidfaol Saesneg yn Heol Lammas, Caerfyrddin am 12.15pm, ond mae’r niferoedd yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Bydd cynrychiolydd o’r bwrdd iechyd yn bresennol i gydnabod a thalu teyrnged I Mrs Beer am ei chyfraniad i’r GIG.

%d bloggers like this: