04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Technoleg a chefnogaeth filwrol yn rhan o’r cynlluniau i gynyddu profion ar weithwyr hanfodol yng Nghymru

MAE cynlluniau newydd i brofi mwy o weithwyr hanfodol am y coronafeirws fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw (dydd Sul 19 Ebrill).

Bydd datrysiadau technoleg, cefnogaeth gan gynlluniau milwrol a chael gwared ar y cap ar atgyfeiriadau gweithwyr cymdeithasol yn cyflymu’r system er mwyn sicrhau bod mwy o weithwyr hanfodol yn cael eu profi’n ddyddiol yng Nghymru.

Mae’r rhain i gyd yn argymhellion o adolygiad a drefnwyd gan y Gweinidog Iechyd yn dilyn pryderon nad oedd digon o brofion yn cael eu cynnal o dan y system bresennol.

Dywedodd Mr Gething: “Rydyn ni’n cynyddu ein capasiti i brofi yng Nghymru drwy ein hunedau profi cymunedol, cyflwyno canolfannau gyrru heibio rhanbarthol ar gyfer profi ac, o fewn wythnosau, gwasanaeth profi gartref ar-lein.

“Gan nad yw nifer dyddiol y profion wedi bod yn cyfateb y capasiti rydyn ni wedi’i greu yng Nghymru, rwyf wedi trefnu adolygiad cyflym o’r system bresennol.

“Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o argymhellion i gyflymu’r broses o atgyfeirio gweithwyr allweddol ar gyfer eu profi. Rwyf wedi derbyn y rhain i gyd i gael eu gweithredu ar unwaith.

“Heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi ein polisi profi gweithwyr hanfodol sy’n amlinellu pa weithwyr fydd yn cael eu profi a sut.

“Rydw i eisiau gweld cynnydd cyflym mewn profi gweithwyr hanfodol ledled Cymru fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt a bod â hyder i wneud eu gwaith yn ddiogel. Mae eu cyfraniad at atal lledaeniad y coronafeirws a’n cadw ni i gyd yn ddiogel yn amhrisiadwy.”

Mae’r argymhellion, sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gweinidog, yn cynnwys y canlynol:

Gwaith i ddarparu platfform archebu ar y we i gael gwared ar fiwrocratiaeth.
Cael gwared ar y terfyn uchaf ar atgyfeiriadau ym mhob awdurdod lleol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Fforymau Cadernid Lleol i adolygu a diwygio’r broses gyfeirio ar gyfer profi gweithwyr hanfodol.
Y fyddin i edrych ar y prosesau gweithredol ac i gyflymu’r system a’i gwneud yn fwy effeithlon.

%d bloggers like this: