04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

UNWAITH eto, bydd teithwyr bws yn gallu teithio am ddim ar deithiau bws wedi’u trefnu yn ninas Casnewydd ym mis Mawrth.

Mae’r Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi croesawu penderfyniad Bwrdd Cyflawni Burns i wneud y cynnig gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd Bwrdd Cyflawni Burns y llynedd i sicrhau bod y 58 o argymhellion yn Adroddiad Burns yn dod yn realiti.  Roedd yr adroddiad yn nodi cynllun ar gyfer system drafnidiaeth gyhoeddus fodern yng Nghasnewydd i leddfu tagfeydd o amgylch yr M4 a gwella gwasanaethau i breswylwyr.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Meddai Cynghorydd Mudd:

“Ym mis Rhagfyr, ariannodd y cyngor gynnig tebyg a gafodd adborth cadarnhaol gan drigolion a busnesau gyda chynnydd amlwg yn nifer y teithwyr bws o gymharu â’r un mis yn 2020.

“Mae gan y cyngor berthynas waith ardderchog gyda Bwrdd Cyflawni Burns felly rwy’n falch iawn ei fod wedi penderfynu cael cynllun bws am ddim ym mis Mawrth.  Hoffwn ddiolch iddo, a Llywodraeth Cymru, am y gefnogaeth bwysig hon i’r ddinas a’i thrigolion.

“Wrth i sefyllfa iechyd y cyhoedd wella yn ôl pob golwg, a gyda dechrau’r gwanwyn yn nesáu, bydd hwn yn gyfle gwych i bobl ddod o hyd i ffyrdd amgen a gwyrddach o deithio tra’n aros yn lleol i gefnogi busnesau lleol.

“Bydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a theuluoedd sy’n wynebu cynnydd mewn costau byw wrth i ni ddod allan o’r gaeaf.”

Dwedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor:  “Yn ogystal ag annog pobl i aros yn lleol a chefnogi busnesau lleol, mae’r cynllun hefyd yn bodloni amcanion tymor hwy y cyngor, Bwrdd Cyflawni Burns a Llywodraeth Cymru i gael mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus mwy cynaliadwy.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r cwmni bysus a gytunodd i ymuno â’r cynllun gan helpu i’w wneud yn gymaint o lwyddiant ym mis Rhagfyr ac rwy’n siŵr y bydd y cynnig ym mis Mawrth yr un mor boblogaidd.

Bydd y cynllun yn parhau i weithredu yn yr un modd:

Bydd teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau’r ddinas ar wasanaethau wedi’u trefnu gyda Bws Casnewydd, Stagecoach, Bws Caerdydd a Fflecsi am ddim.  Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’r llwybrau’n dechrau neu’n gorffen y tu allan i’r ddinas;

Bydd hyn hefyd yn berthnasol i ddisgyblion sy’n teithio i’r ysgol yng Nghasnewydd a fyddai fel arfer yn taluk; a hefyd

Y cwbl sydd angen i deithwyr a fyddai fel arfer yn talu ffi ei wneud yw mynd ar y bws ar gyfer eu teithiau ond rhaid i ddeiliaid tocynnau rhatach, fel pobl dros 60 oed, barhau i ddangos eu tocynnau pan fyddant yn mynd ar y bws

 

%d bloggers like this: