12/04/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Tîm Dysgu a Datblygu y Cyngor yn ennill Gwobr Ysbrydoli

MAE Tîm Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hymateb i bandemig Covid-19.

Ar ddydd Iau 20 Hydref, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, dyfarnwyd Gwobr Ysbrydoli y Sefydliad Dysgu a Gwaith i Dîm Dysgu a Datblygu y Cyngor.

Dyfarnwyd y wobr ‘Gwneuthurwyr Newid yn y Gweithle’ iddynt am y cymorth a ddarparwyd ganddynt i staff gofal cymdeithasol rheng flaen, am y ffordd y gwnaethant addasu hyfforddiant wyneb yn wyneb i ddarparu drwy ddulliau ar-lein, ac am ddatblygu modiwlau e-ddysgu’n gyflym. Bu’r tîm yn cydweithio â Chronfa Ddysgu Undebau Cymru a thîm Dysgu Bro y Cyngor i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn derbyn hyfforddiant mewn meysydd hollbwysig megis Atal a Rheoli Heintiau a Chymorth Cyntaf drwy gydol y pandemig. 

 

Dywedodd Geraint Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfniadaeth: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd yr ymatebodd y tîm Dysgu a Datblygu mor gyflym ar ddechrau’r pandemig o ran uwchsgilio hyfforddwyr a datblygu ystod o fodiwlau e-ddysgu a fu’n cefnogi ac yn hyfforddi ein gweithlu yn ystod cyfnod heriol. Mae’r wobr yn gwbl haeddiannol ac yn gydnabyddiaeth o ymdrech y tîm cyfan.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch o glywed am lwyddiant ac arloesedd y Tîm Dysgu a Datblygu sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol a’r gweithlu corfforaethol yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Ceredigion.”

 

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gweithio yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant. Mae’r sefydliad yn ymchwilio i’r hyn sy’n gweithio, yn dylanwadu ar bolisïau ac yn datblygu ffyrdd newydd o feddwl, ac yn helpu i weithredu dulliau newydd.   

 

Mae’r Gwobrau Ysbrydoli blynyddol yn dathlu cyflawniadau unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a chymhelliant aruthrol i wella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu. 

 

%d bloggers like this: