MAE swyddogion Cyngor Dinas Abertawe sy’n datblygu Hwb Ieuenctid yn parhau i weithio gyda phobl ifanc trwy gydol y cyfnod clo.
Bydd timau, gyda chefnogaeth eu partneriaid sef y YMCA a Barod, yn mynd o gwmpas y ddinas bum noson yr wythnos yn gwneud y mannau a’r lleoedd lle mae pobl ifanc yn treulio’u hamser yn fwy diogel.
Ar adegau arferol maent yn brysur yn trefnu gweithgareddau i bobl ifanc mewn clybiau a chanolfannau ieuenctid ledled Abertawe.
Ond, ers i’r cyfyngiadau cyfredol fod ar waith, maent wedi bod yn mynd o gwmpas y strydoedd dros y gaeaf yn cefnogi pobl ifanc yn ogystal â’u cwrdd ar-lein.
Meddai’r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Plant:
“Drwy gydol y cyfnod clo diweddaraf, mae ein swyddogion Datblygu’r Hwb Ieuenctid wedi parhau i fod yno ar gyfer pobl ifanc Abertawe.
“Mae’r pandemig wedi bod yn amser anodd i bob oed, ac nid yw pobl ifanc yn eithriad.
“Oherwydd y cyfyngiadau, mae clybiau ieuenctid wedi gorfod cau dros dro, fodd bynnag, gan y bydd cyfyngiadau’r cyfnod clo’n cael eu llacio’n raddol dros y misoedd i ddod, byddant yn ailagor cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
“Yn y cyfamser, bydd y tîm a’n partneriaid yn parhau i gefnogi’n pobl ifanc yn y mannau lle maent yn cwrdd tu fas ac yn ddigidol i sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt pan fo’u hangen arnynt.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m