04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Timoedd Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful yn cyrraedd Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2021

CAFODD Tîm Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Blaenau Gwent ynghyd â’u partner Anelu’n Uchel Merthyr Tudful eu dewis ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru. Cynhelir y gwobrau rhithiol ar 29 Ebrill 2021 ac maent yn uchafbwynt yn y calendr dysgu seiliedig ar waith.

Bob blwyddyn mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad rhagorol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, prentisiaid, cyflawnwyr rhagorol a chyflogwyr ymroddedig sydd wedi rhagori ar raglenni prentisiaethau a hyfforddiaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd Anelu’n Uchaf Blaenau Gwent a’u partneriaid Anelu’n Uchel Merthyr Tudful eu dewis, ynghyd â phedwar sefydliad arall, yng nghategori ‘Cyflogwr Mawr ac Macro y Flwyddyn’. Mae’r wobr hon yn dathlu ymrwymiad y cyflogwr i ddatblygu eu gweithluoedd drwy brentisiaethau, tra’n cefnogi eu gweithwyr cyflogedig yn ystod hyfforddiant.

Sefydlwyd Anelu’n Uchel Blaenau Gwent yn 2015 ac Anelu’n Uchel Merthyr Tudful yn 2017, mae’r tîm o wyth yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg Blaenau Gwent a Merthyr. Hyd yma, mae ganddynt record rhagorol o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy’r rhaglen. Cafodd y tîm Anelu’n Uchel eu cydnabod eisoes am eu hymroddiad rhagorol a record prentisiaid yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2019 lle gwnaethant ennill yn yr un categori.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol:

“Mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau yn gamp enfawr a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y rownd derfynol rithiol. Mae cyrraedd cam olaf y categori unwaith eto yn wir gydnabyddiaeth o holl waith caled timau Anelu’n Uchel ym Mlaenau Gwent a Merthyr, yn arbennig pan fo gennym gystadleuaeth mor galed. Mae hon yn enghraifft arall eto o weithio partneriaeth llwyddiannus sydd wedi dangos ein hymrwymiad i ddatblygu a chefnogi prentisiaethau, er gwaethaf heriau COVID-19”.

Caiff Gwobrau Prentisiaeth Cymru eu trefnu ar  cyd gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru a drwy banel o feirniaid o fri wedi dod ynghyd â 35 o enillwyr haeddiannol i’r rowndiau terfynol mewn 12 categori o bob rhan o Gymru.

Yn rownd olaf categori Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn mae;

Heddlu Dyfed Powys, Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, DOW, Cyngor Rhondda Cynon Taf, aBwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

%d bloggers like this: