03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Tocynnau ar gael nawr gyfer digwyddiadau prawf Arena Abertawe

GWAHODDIR pobl Abertawe i gymryd rhan wrth i’r arena gael ei phrofi mewn dau ddigwyddiad a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd tocynnau ar werth ddydd Llun 7 Chwefror ar gyfer y digwyddiadau a fydd yn galluogi i brofi pob agwedd ar y lleoliad cyn i’r arena agor ym mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys gwacáu fel rhan o brofion diogelwch. Pris tocynnau digwyddiad prawf yn costio £5, a byddant yn cynnwys taleb diodydd ategol.

Bydd y digwyddiadau prawf, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o artistiaid o Abertawe, yn cael eu cynnal nos Wener 25 Chwefror a dydd Sadwrn 26 Chwefror.

Bydd digwyddiad prawf nos Wener 25 Chwefror, a gynhelir yn gynnar gyda’r hwyr, yn cynnwys Trampolene, The Now, Inscape a The Vega Bodegas. Yna ddydd Sadwrn 26 Chwefror, bydd y digwyddiad prawf a fydd yn rhedeg o ganol y prynhawn hyd at hwyr y nos, yn cynnwys Prosperina, Pearler, Fallen Temples, Cities, Lost Tuesday Society, The Orange Circus a King Goon.

Mae Arena Abertawe’n rhan o ardal cam un Bae Copr sy’n werth £135 miliwn, sy’n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe gyda’r rheolwr datblygu RivingtonHark yn cynghori arni. Mae’r arena’n cael ei phrydlesu i weithredwr theatr a lleoliadau blaenllaw Ambassador Theatre Group, sy’n rhedeg yn agos at 60 o leoliadau ar draws y DU a thramor.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Mae digwyddiadau prawf ar gyfer lleoliadau newydd o’r math hwn yn arfer safonol fel bod modd asesu popeth, ei fireinio a’i wella cyn i’r arena agor yn swyddogol ym mis Mawrth. Maen nhw’n rhan allweddol o’r broses sy’n sicrhau bod yr arena’n gweithredu hyd eithaf ei gallu.

“Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bobl Abertawe gymryd rhan yn y broses o brofi’r arena, gan fwynhau rhai o’r doniau cerddorol lleol gorau.

“Dyma gam arall ymlaen i’r arena, fel rhan o ddatblygiad cam un Bae Copr dan arweiniad y cyngor sydd wedi gwneud cynnydd anhygoel drwy gydol y pandemig.

“Bydd ardal Bae Copr, a fydd yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe unwaith y bydd ar agor ac yn weithredol, hefyd yn creu cannoedd o swyddi o ansawdd uchel, yn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas ac yn denu rhagor o fuddsoddiad i’n dinas.”

Mae ardal cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw newydd, pont newydd dros Oystermouth Road, mannau parcio newydd, fflatiau newydd a lleoedd newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch. Buckingham Group Contracting sy’n arwain y gwaith adeiladu.

Mae elfen yr Arena o’r ardal wedi’i hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3bn, sef buddsoddiad mewn naw rhaglen a phrosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

 

%d bloggers like this: