04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol a data

MAE’R Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd ynghylch y cynnydd a wnaed o ran defnyddio technoleg ddigidol a data iechyd a gofal. Mae hefyd yn sôn am rai cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Medd y Gweinidog:

“Mae technoleg ddigidol yn rhan bwysig o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, a helpu pobl i gael bywyd da. Mae’r pandemig wedi bod yn gatalydd ar gyfer gwneud newidiadau yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol. Wrth i’r coronafeirws ledaenu’n gyflym ar draws Cymru, gan gyfyngu ar y gallu i gynnal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, cafodd gwasanaethau digidol newydd, a oedd yn seiliedig ar ddata, eu cyflwyno ar frys i gefnogi clinigwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Mae defnyddio data iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd effeithiol yn allweddol i wella’r gofal a thriniaeth a ddarperir, ac i sicrhau bod y gwasanaethau iawn yn cael eu darparu ar yr amser iawn yn y lle iawn. Hefyd mae gan dechnoleg rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod pobl yn cael mynediad diogel at yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i reoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.

Mae technoleg ddigidol eisoes yn ei gwneud yn bosibl i ddata gael eu rhannu rhwng sefydliadau ac unigolion sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal i bobl ledled Cymru.

Mae Porth Clinigol Cymru yn darparu mynediad a reolir at wybodaeth ynghylch pobl sy’n derbyn gofal iechyd a thriniaeth, gan dynnu ar ystorfeydd data cenedlaethol. Mae System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn helpu gweithwyr iechyd a gofal cymunedol, megis gweithwyr cymdeithasol a nyrsys ardal, i gofnodi a rhannu’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i allu darparu gofal di-dor.

Rydym yn bwriadu gwneud mwy gyda thechnoleg a data er mwyn cyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau a darparu gofal a thriniaeth ddi-dor.

Ar hyn o bryd mae tameidiau o ddata iechyd a gofal yn cael eu storio ar draws gwahanol systemau electronig a chronfeydd data. Gall hynny ei gwneud yn anodd rhannu gwybodaeth yn ddigidol, ac mae’n cymryd amser ac adnoddau i sicrhau bod data’n gallu llifo i’r mannau lle mae eu hangen, er enghraifft i wneud penderfyniadau clinigol.

Nid yw’r mater hwn yn unigryw i Gymru, ond mae gennym gyfle i gyflwyno newidiadau ar lefel Cymru gyfan. Mae ein cynlluniau’n cynnwys nifer o ddulliau gweithredu arloesol a fydd o fantais i’r cyhoedd, gan helpu gwasanaethau i weithredu mewn modd mwy effeithiol.

Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol yn fenter strategol deg mlynedd a fydd yn trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru drwy ddefnyddio data mewn modd mwy cysylltiedig a chydweithredol. Bydd y rhaglen yn rhoi’r data a’r dulliau priodol i ddefnyddwyr er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau cytbwys. Bydd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu un cofnod digidol sengl ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, a fydd yn galluogi gwasanaethau i ganolbwyntio ar yr unigolyn drwy ganiatáu i systemau iechyd a gofal dynnu ar un ffynhonnell o ddata cywir a chyfredol, a chyfrannu at y ffynhonnell honno.

Drwy dynnu gwybodaeth ynghyd yn yr Adnodd Data Cenedlaethol, gellir osgoi’r angen i gopïo a rhannu setiau data sy’n dod o ffynonellau lluosog, gan osgoi sefyllfa lle mae ymdrechion a data yn cael eu dyblygu, a’i gwneud yn bosibl defnyddio rheolaethau trylwyr a chyson a mesurau diogelwch.

Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd yn enghraifft arall o ddefnyddio technoleg a data i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r rhaglen yn datblygu cymwysiadau digidol sy’n gallu ei gwneud yn haws i bobl fonitro cyflyrau iechyd, a rhannu a derbyn gwybodaeth bwysig am iechyd, a chyfrannu’n ymarferol at eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.

Mae hynny’n cynnwys Ap GIG Cymru a fydd yn helpu pobl i gael apwyntiad, gweld canlyniadau profion, ac archebu presgripsiynau drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen. Bydd Ap GIG Cymru yn cael ei lansio’n nes ymlaen eleni.

Bydd y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn gwneud gwasanaethau meddyginiaethau’n haws, yn ddiogelach, ac yn fwy effeithlon. Bydd yn golygu bod y meddyg teulu yn gallu llofnodi presgripsiwn yn electronig a’i drosglwyddo i fferyllfa o ddewis y claf, neu gellir gwneud hyn ar gyfer y rheini sy’n gadael yr ysbyty. Bydd un cofnod sengl o feddyginiaethau ar gyfer pob unigolyn yng Nghymru yn ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth â phawb y mae angen iddynt wneud penderfyniadau ynghylch gofal a thriniaeth. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i’r unigolyn ei hun a fydd yn gallu cael manylion am ei feddyginiaethau drwy Ap GIG Cymru.

Mae pobl yn awyddus i wybod bod yr wybodaeth a gedwir amdanynt yn ddiogel a’i bod yn cael ei defnyddio mewn modd cyfreithiol a phriodol.  Rydym yn gweithio ar Addewid Data, a fydd yn disgrifio’r egwyddorion a’r ymrwymiadau a fydd yn berthnasol i ddata iechyd a gofal yng Nghymru. Byddwn yn ymgysylltu’n eang wrth inni ddatblygu’r addewid hwn, er mwyn cynrychioli barn pobl yn briodol.

Mae gweithredu’r mentrau hyn yn llwyddiannus yn golygu bod angen i’r GIG, llywodraeth leol, darparwyr gofal sylfaenol a’m swyddogion gydweithio a chydweithredu. Rwy’n ddiolchgar am eu gwaith, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd hyn i gyd yn ei chael ar wasanaethau iechyd a gofal.”

%d bloggers like this: