04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trefn Newydd i arlwy ‘Clwb Cylch’

YN ystod y mis diwethaf, mae Mudiad Meithrin wedi cyfrannu at weithgarwch Cymraeg yn y cartref trwy ddarparu sesiynau agored dan faner ‘Clwb Cylch’ (#ClwbCylch) i blant oedran Cylch a’u rhieni trwy lwyfannau digidol – gyda phwyslais penodol ar blant o deuluoedd ble na siaredir y Gymraeg yn y cartref.

Cynhaliwyd sesiwn byw bob bore am 10.00 wedi’i seilio ar brofiad ‘Amser Cylch’ yn y Cylch Meithrin arferol gydag arweinydd Cylch Meithrin profiadol, gan ddefnyddio cynnwys o gynllun trochi iaith Mudiad Meithrin, Croesi’r Bont a chynllun hyfforddiant Mudiad Meithrin, Academi.

Pleser yw cyhoeddi y bydd sesiynau Clwb Cylch yn parhau o ddiwedd mis Mehefin hyd at ddiwedd mis Awst, gan ddarlledu cyfuniad o sesiynau newydd sbon, ailddarllediad o ambell sesiwn Clwb Cylch blaenorol, detholiad o fideos gan staff cynllun ‘Cymraeg i Blant’, yn ogystal â fideos newydd a ddarperir gan staff Arweinyddion Ti a Fi Teithiol.

Mae modd gweld sesiynau Clwb Cylch, Cymraeg i Blant, a Ti a Fi Teithiol ar dudalen Facebook Mudiad Meithrin pob dydd am 10.00 y bore. Bydd yr holl sesiynau i’w gweld ar blatfformau digidol y Mudiad (Facebook/MudiadMeithrin, trydar@MudiadMeithrin) yn ogystal ag ar adran newydd ar wefan y Mudiad – www.meithrin.cymru/cymraegadre/

Pwrpas yr arlwy hwn yw cefnogi teuluoedd a diddanu plant mewn modd agored a deinamig gan ddarparu cefnogaeth ymarferol i rieni di-Gymraeg.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Nod ‘Clwb Cylch’ yw ceisio ail-greu peth o hwyl a chynnwrf Cylch Meithrin ar gyfer plant sydd naill ai’n colli allan ar ddarpariaeth ar y funud neu sy’n paratoi at fynd i’r Cylch maes o law. Bydd hyn hefyd yn cyfoethogi arlwy presennol ‘Cymraeg i Blant’ sydd wedi ei anelu at rieni a gofalwyr wrth iddynt gyflwyno’r Gymraeg i’w plant”.

%d bloggers like this: