04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trefniadau addysgu newydd o’r cartref yn dal ”plant yn ôl” medd Plaid Cymru

MAE Sian Gwenllian AC yn dweud fod y trefniadau addysgu newydd o’r cartref yn ystod Covid-19 yn tynnu sylw clir ar sut mae tlodi yn dal plant yn ôl.

Ym mis Mawrth, ar ddechrau’r pandemig fe alwodd Plaid Cymru am liniaduron unigol am ddim i blant oed ysgol sydd eu hangen, ac am ddarparu’r rhyngrwyd am ddim i bob cartref â phlant oed ysgol ac sydd heb gysylltiad rhyngrwyd ar hyn o bryd. Fe gred Ms Gwenllian petai hyn wedi ei roi ar waith yn syth fe fyddai wedi gwneud gwahaniaeth.

Nododd y Gweindiog Addysg Cysgodol fod yr “anghyfartaledd addysgol” wedi dod i’r amlwg dros yr wythnosau diwethaf ac y gallai’r “cyfnod estynedig” o ddysgu gartref achosi “ledu’r bwlch cyrhaeddiad”.

Dywedodd Ms Gwenllian nad oedd hi yn rhy hwyr i weithredu ar awgrym Plaid Cymru o gyfarpar am ddim a galwodd am “arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru” fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol ar draws Cymru yn gallu darparu offer i blant sydd ei angen gan roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau sydd angen prynu laptops newydd ar frys. Na ddylai’r pandemig olygu bod plant yn colli eu haddysg ac na ddylid “gadael unrhyw blentyn ar ôl.”

“Mae athrawon yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl ond wedi sawl wythnos o’r drefn ysgolion newydd erbyn hyn mae’r anghyfartaledd addysgol sy’n cael ei achosi gan dlodi wedi dod yn glir. Dylai pob cymuned a phob cartref yng Nghymru – gwledig neu drefol, gogledd neu dde gael yr un cyfleoedd wrth wynebu’r sefyllfa anodd hon.

“Does dim syniad ynghylch pryd bydd ysgolion yn ailagor, ac mae rhai’n awgrymu na fyddant yn ailagor tan fis Medi; gallai’r cyfnod estynedig hwn achosi i’r bwlch cyrhaeddiad ledu. Mae bod heb wi-fi neu ddyfeisiau addas yn golygu bod plant wedi’u cloi allan o’u haddysg.

“Dyw hi ddim rhy hwyr i weithredu awgrym Plaid Cymru o gyfarpar am ddim ac rwy’n deall fod rhai awdurdodau lleol yn darparu offer a ‘dongles’ i’r disgyblion rheini sydd eu hangen. Mae angen arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru fel bod ysgolion ac awdurdodau lleol led led Cymru yn darparu offer i blant sydd ei angen gan roi cefnogaeth ariannol i awdurdodau sydd angen prynu laptops newydd ar frys.

“Ni ddylai’r pandemig Coronafeirws olygu bod plant ar eu colled o ran eu haddysg. Ni ddylid gadael unrhyw blentyn ar ôl.”

%d bloggers like this: