04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Treialon cyfoethogi ysgolion ar waith

MAE Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, men datganiad ysgrifenedig wedi son am y treialon sudd ar with i gyfoethogi ysgolion.

Medd y Gweinidog:

Rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer diwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol er mwyn diogelu lles dysgwyr a staff, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb addysgol, a’u halinio â phatrymau bywyd teuluol a gwaith yr oes fodern. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud ochr yn ochr â Grŵp Plaid Cymru y Senedd, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae sesiynau treialu cyfoethogi ychwanegol wedi bod yn cael eu cynnal mewn 13 o ysgolion ac un coleg, a mwy na 1,800 o ddysgwyr wedi bod yn elwa ar bum awr ychwanegol yr wythnos o weithgareddau cyfoethogi wedi’u teilwra, dros gyfnod o ddeg wythnos.

Mae’r ysgolion a gymerodd ran wedi cael cymorth a chyllid i ymgorffori gweithgareddau a phrofiadau cyfoethogi ychwanegol o amgylch y diwrnod ysgol i gefnogi’r dysgu, sgiliau ehangach, y gallu i feithrin cydberthnasau, a lles. Mae’r dull gweithredu yn seiliedig ar fodelau rhyngwladol a gwaith y Sefydliad Polisi Addysg a’r Gronfa Gwaddol Addysg.

Cynlluniodd pob ysgol dan sylw ei rhaglen ei hun o weithgareddau cyfoethogi, ar sail ei hanghenion a’i hamgylchiadau ei hun, ac roedd hyblygrwydd mawr o ran ystod y sesiynau a gynigiwyd, i ba raddau y cafodd partneriaid allanol eu cynnwys, a ph’un a ddarparwyd yr oriau ychwanegol cyn neu ar ôl oriau craidd yr ysgol.

Cynigiwyd cyfleoedd eang i ysgogi dysgwyr drwy’r treialon hyn. Mae’r rhain yn amrywio o goginio i godio, chwaraeon amrywiol i theatr gerddorol, yn ogystal â chymysgedd o weithgareddau cymdeithasol a rhaglenni academaidd megis ysgrifennu creadigol a chelfyddydau mynegiannol. Mae’r ysgolion hefyd wedi cael y cyfle i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau ag ystod eang o ddarparwyr trydydd parti. Mae’r rhain yn cynnwys cyrff chwaraeon proffesiynol, yr Urdd, ysgolion coedwig a Chymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar ymhlith eraill, gan sicrhau sesiynau cyfoethogi ychwanegol i ysgogi dysgwyr i ailgydio yn eu dysgu.

Mae’r treialon hyn wedi dod i ben bellach, ac rwyf am ddiolch o galon i’n holl bartneriaid gweithredol, gan gynnwys darparwyr trydydd parti a CLlLC. Yn benodol, rwyf am roi diolch enfawr i bob un o’r ysgolion a’u gweithluoedd a gymerodd ran, a wirfoddolodd mewn cyfnod hynod heriol, gan ddatblygu a chyflwyno rhaglenni mor gyfoethog ac amrywiol.

Mae’r adborth cychwynnol gan ysgolion, dysgwyr a theuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae gwerthusiad llawn ac annibynnol o’r treialon ar y gweill erbyn hyn, a chaiff adroddiad ei baratoi erbyn yr hydref.

Drwy’r gwerthusiad hwn, rwy’n gobeithio dod i ddealltwriaeth o ystod y gweithgareddau a’r cyfleoedd a gynigiwyd. Sut yr aed ati i ymgysylltu â’r dysgwyr a’u cefnogi drwy’r treialon o ran eu datblygiad a’u lles emosiynol a chorfforol, a sut roeddent yn ymagweddu at eu haddysg. Byddwn hefyd yn ystyried yr effaith ar weithlu’r ysgolion a chanfyddiad teuluoedd y dysgwyr o’r profiad. Yn yr un modd, bydd y gwerthusiad yn edrych ar rôl ac effaith y darparwyr trydydd parti allanol, ynghyd â’r cyfleoedd.

Tra byddaf yn aros am ganlyniadau’r gwerthusiad hwn a fydd yn ategu ymhellach y sylfaen dystiolaeth sy’n datblygu, byddaf yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau o ran y diwrnod ysgol, gan gynnwys sut y gellir cefnogi ymhellach weithgarwch cyfoethogi.

%d bloggers like this: