03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Treialu trefniadau parcio diogel a llif traffig yn nhrefi Ceredigion

MAE mesurau yn cael eu treialu yng Ngheredigion i greu trefi mwy diogel a chroesawgar, ynghyd â gwella llif traffig yn yr ardaloedd arfordirol hynny.

Yn ystod tymor prysur haf 2020, cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion Barthau Diogel dros dro mewn trefi arfordirol i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol diogel yn ystod cyfnod cynnar y pandemig a galluogi busnesau i fasnachu yn yr awyr agored.

Gan fod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol wedi llacio yng Nghymru, nid oes angen rhai o’r mesurau hyn mwyach, er enghraifft cau ffyrdd am gyfnodau penodol o’r dydd, a byddant yn cael eu dirymu yn rhan o broses y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol (ETRO). Fodd bynnag, mae’r palmantau estynedig, y trefniadau parcio a rhai o’r mesurau llif traffig wedi profi’n fuddiol ac mae cyfiawnhad dros dreialu’r elfennau hyn ymhellach ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd yn rhithiol ar 01 Chwefror 2022, cymeradwyodd yr Aelodau Cabinet ddau Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol ar gyfer Aberteifi, Ceinewydd, Aberaeron ac Aberystwyth.

Gall y gorchmynion barhau mewn grym am hyd at 18 mis. Bydd un yn rheoli’r cyfyngiadau parcio a’r llall yn rheoli’r llif traffig unffordd, y gwaharddiadau ar droi i’r dde/chwith a dim mynediad yn y trefi.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd:

“Gwnaed addasiadau i’n trefi arfordirol yn ystod cyfnod cynnar y pandemig i sicrhau y gallai pobl fwynhau Ceredigion yn ddiogel ac yn gyfrifol. Wrth i ni symud ymlaen, gallwn weld fod rhai o’r addasiadau cychwynnol hyn wedi profi’n fuddiol i gynllun y trefi er mwyn sicrhau rhwyddineb mynediad a diogelwch ar gyfer pawb sy’n byw ac yn ymweld â’r llefydd hyn.”

Bydd swyddogion yn dechrau ar y broses gyfreithiol nawr o gyflwyno gorchmynion yr ETRO, a bydd gan aelodau o’r cyhoedd chwe mis o ddyddiad cyflwyno’r gorchmynion i gyflwyno unrhyw adborth ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol. Pan fydd y cyfnod chwe mis cychwynnol ar ben, gall yr Awdurdod Lleol benderfynu i ddirymu, addasu a pharhau i ymgynghori, neu wneud y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol yn barhaol.

%d bloggers like this: