11/11/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

YNG nghyfarfod y Cyngor Llawn cytunodd yr aelodau gynnydd o 1% o Dreth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2022/23.

Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 33 ceiniog yr wythnos (£17.29 y flwyddyn) ar gyfer eiddo  ‘Band D’ a – gan fod  84% o’r eiddo ym  Merthyr Tudful ym Mand A i C- bydd y cynnydd ar gyfer nifer sylweddol o drethdalwyr y Cyngor yn amrywio o 22 ceiniog yr wythnos (£11.53 y flwyddyn ) a 30 ceiniog yr wythnos (£15.37 y flwyddyn) (Gweler Atodiad 1).

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dyw’r cynnydd o 1% o gynnydd Treth y Cyngor ar gyfer Merthyr fel y nodir uchod ddim yn cynnwys archebiant ar gyfer Awdurdod Heddlu De Cymru: £302.11 a phreswylwyr o fewn Cyngor Cymuned Trelewis / Bedlinog: £23.95. Mae’r Manylion Llawn am daliadau Treth y Cyngor sydd yn ddyledus fesul Band ar gyfer 2022/2023 yn atodiad 2 isod.

Yn ogystal â’r Cynllun Lleihad Treth y Cyngor (CLlTC) ar gyfer 2022/23 bydd cefnogaeth ar gael i tua 6,000 o’n preswylwyr. Os ydych ar incwm isel a ddim yn derbyn lleihad CLlTC gallwch gwblhau ffurflen gais ymaI: merthyr.gov.uk/resident/council-tax/council-tax-reduction/.

%d bloggers like this: