03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trigolion cael eu hannog i ymuno ymgyrch ailgylchu enfawr

MAE Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ymgyrch Cymru yn Ailgylchu, ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ sy’n ceisio mynd i’r afael â newid hinsawdd, a sicrhau mai hon yw’r wlad orau yn y byd am ailgylchu.

Ledled Cymru, mae 92% o bobl bellach yn ailgylchu’n rheolaidd, ac mae trigolion yn cael eu hannog i barhau â’u hymdrechion drwy ailgylchu cymaint â phosib yn ystod y gwanwyn.

Er gwaethaf yr heriau sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyrhaeddodd cyfradd ailgylchu Cymru 65%, yr uchaf erioed, a bellach mae 55% yn ailgylchu mwy nag yr oeddynt 12 mis yn ôl. Ar hyn o bryd, Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ond mae mwy o waith i’w wneud, gan nad yw hanner y boblogaeth yn gwneud hynny.

Meddai Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr:

Ailgylchu yw un o’r ffyrdd mwyaf syml i ni allu helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd o fewn ein cartrefi, ac mae’n helpu i warchod adnoddau naturiol ac arbed ynni, gan arafu effeithiau newid hinsawdd.

Mae ailgylchu bellach yn arfer dydd i ddydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bob wythnos. Yn ystod y degawd diwethaf, mae mwy o bobl yn ailgylchu, ac nawr rydym yn ailgylchu 67 y cant o’n gwastraff, sy’n gynnydd o 46 y cant ers 2010.

Dylai trigolion fod yn falch o’u hymdrechion, ond mae’n rhaid i ni barhau â’r gwaith da ac ailgylchu popeth posib gartref – boed hynny’n wastraff bwyd megis plisgyn wŷ, croen bwyd a bagiau te o’r gegin, neu boteli siampŵ a sebon o’r ystafell ymolchi.

Mae Cymru yn Ailgylchu wedi rhannu ei phum prif awgrym ar gyfer ailgylchu gartref y gwanwyn hwn:

Glanhau gwyrdd:

Gellir ailgylchu poteli cynnyrch glanhau gwag – o boteli plastig i chwistrellwyr ac erosolau polish dodrefn. Sicrhewch eu bod nhw’n wag, a rhowch nhw yn eich gwastraff ailgylchu yn hytrach na’u taflu i ffwrdd. Gall ailgylchu un botel chwistrell arbed digon o ynni i bweru chwe llechen gyfrifiadurol;

Rhoi trefn ar anhrefn:

Mae’r gwanwyn fel arfer yn amser i roi trefn ar eich cartref. Os oes gennych ddillad/tecstilau, eitemau trydanol bach neu fatris i’w taflu, gallwch eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu cymunedol neu gellir eu casglu y tu allan i’ch cartref – rhowch y cyfan mewn bag plastig gyfochr â’ch cynhwysyddion ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol. Ewch i lleoliad ailgylchu (External link – Opens in a new tab or window) ar wefan Cymru yn Ailgylchu am ragor o wybodaeth;

Troi eich gwastraff bwyd yn ynni

Os ydych yn coginio, rhowch yr holl wastraff bwyd na ellir ei fwyta, megis croen a choesau llysiau yn eich cynhwysydd gwastraff bwyd, ynghyd â phlisgyn wy ac esgyrn o unrhyw gig neu bysgod sy’n wastraff. Gellir ailgylchu bagiau te, gwaddod coffi a chroen ffrwythau hefyd. Mae bwyd yn troi’n ynni adnewyddadwy wrth gael ei ailgylchu. Gall ailgylchu croen un banana gynhyrchu digon o ynni i bweru dau ffôn clyfar;

Ailgylchwch boteli o’r ystafell ymolchi

Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig yn eich cartref, yn cynnwys cynnyrch ystafell ymolchi megis siampŵ, cyflyrydd, sebon dwylo â photeli gel ymolchi. Ar ôl eu gorffen, golchwch y poteli a’u rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu. Defnyddir 75% yn llai o ynni i greu potel blastig wedi’i ailgylchu, o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘craidd’, felly ailgylchwch y poteli o’ch ystafell ymolchi i ddiogelu’r blaned; a hefyd

Ailgylchwch eich erosolau:

Gellir ailgylchu erosolau diaroglydd, siampŵ sych a phereiddiwr aer. Does dim diwedd i oes metel, felly gellir ei ailgylchu drosodd a throsodd heb golli ei ansawdd. Ymunwch â’r 73% o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ailgylchu eu caniau erosol gwag.

I gael rhagor o wybodaeth ar ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan y cyngor ac i gael gwybod mwy am Bydd Wych. Ailgylcha. ewch i wefan Cymru yn Ailgylchu (External link – Opens in a new tab or window).

%d bloggers like this: