03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trosglwyddo adeiladau canol tref Aberhonddu i Grŵp Colegau NPTC

MAE cynlluniau ar waith i drawsnewid darpariaeth addysg bellach mewn tref yn ne Powys yn dilyn trosglwyddo dau adeilad amlwg yng nghanol y dref.

Mae Cyngor Sir Powys wedi trosglwyddo Watton Mount Aberhonddu a’r hen lyfrgell ar Stryd y Defaid wedi iddynt gael eu prynu i Grŵp Colegau NPTC.

Bydd trosglwyddo’r adeiladau rhestredig yn golygu y bydd Grŵp Colegau NPTC yn gallu adleoli ei Goleg Bannau Brycheiniog i ganol y dref i greu campws a fydd yn rhoi ymdeimlad o brifysgol, gan arwain at gyflwyno addysg sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, ynghyd â’r holl adnoddau angenrheidiol yn y dref.

Mae hyn yn dilyn cytundeb cynharach rhwng y cyngor a Grŵp Colegau NPTC sydd wedi ad-drefnu ac ailfrandio’r hen Ganolfan Groeso yn yr hen farchnad wartheg i greu “Y Cwtch”, gan ddarparu cyfleoedd dysgu lluosog i drigolion, a chreu canolfan galw heibio, yn ogystal â lle i’w ddefnyddio gan grwpiau a chlybiau cymunedol,  dan brydles 25 mlynedd.

Bydd yr adeiladau’n cael eu hadnewyddu gan Grŵp Colegau NPTC i gartrefu technolegau rhyngweithiol a lleoliadau o’r radd flaenaf ar gyfer sawl maes astudio.

Mae’r ddau sefydliad hefyd yn gweithio mewn partneriaeth yn y dref yn atyniad blaenllaw y Gaer yn Aberhonddu, a fydd yn arwain at lyfrgell newydd i’r Coleg, mannau dysgu ar y cyd a chaffi, tra bydd oriau agor y llyfrgell gymunedol yn cael eu hymestyn i saith diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Sir Powys dros yr Economi a’r Amgylchedd:

“Bydd trosglwyddo’r adeiladau amlwg hyn yng nghanol y dref yn dod â manteision adfywio sylweddol i Aberhonddu, gan roi hwb i fasnach siopau a busnesau gan ddod â mwy o fywyd i ganol y dref.

“Bydd y cyngor yn gweithio’n agos gyda Grŵp Colegau NPTC wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau datblygu ar gyfer Coleg Bannau Brycheiniog.”

Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd bod cynnydd yn cael ei wneud:

“Mae’r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers peth amser, ac rydym wrth ein bodd ei fod bellach yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda chontractau ar gyfer Watton Mount a Llyfrgell Stryd y Defaid yn cael eu cyfnewid.”

%d bloggers like this: