03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Tŵr cloc Casnewydd i droi’n biws gyfer Cyfrifiad 2021

O DDYDD Gwener 19 Mawrth, bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn ymuno â mwy na chant o adeiladau a thirnodau ledled Cymru a Lloegr drwy gael ei oleuo’n biws dros y penwythnos i ddathlu’r cyfrifiad sydd i ddod a’i bwysigrwydd i gymunedau.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i godi ymwybyddiaeth o ddiwrnod y cyfrifiad ar 21 Mawrth, arolwg sy’n digwydd bob deng mlynedd ac sy’n rhoi darlun o holl bobl a chartrefi Cymru a Lloegr.

Mae’n helpu i lywio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, megis pennu’r nifer priodol o leoedd mewn ysgolion a gwelyau ysbyty sydd eu hangen i wasanaethu eu cymunedau’n briodol.

Dywedodd Pete Benton, cyfarwyddwr gweithrediadau cyfrifiad SYG:

“Mae’r cyfrifiad yn allweddol o ran ein helpu i lywio’r gwasanaethau hanfodol rydym i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd yn ein cymunedau.

“Roedden ni eisiau disgleirio goleuadau (piws!) ar yr adeiladau a’r tirnodau sydd bwysicaf i’w hardaloedd lleol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y cyfrifiad o ran helpu i lunio’r cymunedau rydym yn byw ynddynt.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r holl gefnogaeth yr ydym wedi’i chael hyd yma a hoffem ddiolch i Gyngor Dinas Casnewydd am gymryd rhan. Nawr yw’r amser i bawb gwblhau eu cyfrifiad a bod yn rhan o hanes”

Bydd pob cartref yng Nghymru a Lloegr yn derbyn llythyrau cyfrifiad gyda chodau mynediad unigryw sy’n eu galluogi i lenwi eu cyfrifiad ar-lein.

Diwrnod y Cyfrifiad yw 21 Mawrth, ond gallwch ei gwblhau cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich llythyr os ydych yn hyderus na fydd unrhyw newid o ran pwy sy’n byw yn eich cartref fel arfer.

Mae ffurflenni papur ar gael i’r rhai sydd eu hangen, ynghyd ag ystod o gymorth arall. Os oes angen unrhyw help arnoch, neu i ofyn am ffurflen bapur, gallwch ymweld â www.census.gov.uk.  Mae canolfan gymorth cyfrifiad (rhadffôn 0800 169 2021) ar gael os na allwch ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad 2021, ewch i https://census.gov.uk/.

%d bloggers like this: