04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Tyfu Canolbarth Cymru archwilio potensial hydrogen ar gyfer y rhanbarth

COMISIYNODD Tyfu Canolbarth Cymru, gyda chefnogaeth Grwpiau Gweithredu Lleol Cynnal Y Cardi ac Arwain, a Chynghorau Sir Powys a Cheredigion yr ymgynghorwyr Radical Innovations Group i gynnal yr astudiaeth, ar ôl i randdeiliaid rhanbarthol ddatgan diddordeb mewn Hydrogen Gwyrdd fel ateb dim allyriadau.

I lawer, mae hydrogen yn cael ei weld fel elfen allweddol i gefnogi trawsnewidiadau cenedlaethol a rhanbarthol i sero net. Gallai hydrogen roi cyfle sylweddol i ddatgarboneiddio sectorau cyfan o’r economi, gan symud oddi wrth ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

Wrth i Lywodraethau’r DU a Chymru gynyddu eu ffocws ar y sector hydrogen fel ateb i ddatgarboneiddio sectorau anodd eu trin, mae Astudiaeth Hydrogen y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos potensial cynyddol ar gyfer buddsoddiad ar raddfa ddiwydiannol yn y dyfodol mewn cynhyrchu hydrogen gwyrdd i gefnogi datgarboneiddio.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Tyfu Canolbarth Cymru,:

“Mae pawb sy’n gysylltiedig yn falch iawn y gallai cyllid LEADER gael ei ddefnyddio i gefnogi prosiect mor arloesol a blaengar. Mae cyfoeth adnoddau naturiol y Canolbarth, yr arbenigedd a’r amgylchedd yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn y newid i sero net fel rhan o ddull Cymru gyfan.”

Mae ynni carbon isel gan gynnwys hydrogen yn faes sy’n cynnig potensial sylweddol o ran cefnogi datblygiad ac anghenion ynni’r dyfodol yn economi Canolbarth Cymru a’i chymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, meddai Arweinydd Cyngor Sir Powys a chyd-gadeirydd Tyfu Canolbarth Cymru:

“Mae’r prosiect a’r adroddiad hwn yn darparu cam cyntaf pwysig a sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu prosiectau Hydrogen yn y rhanbarth a Chynllun Gweithredu Hydrogen Canolbarth Cymru. Rydym yn eich annog i gefnogi’r rhanbarth i symud tuag at ddatblygu senarios dichonadwy ar gyfer defnyddio hydrogen yn y Canolbarth.”

Bydd y camau nesaf yn ymchwilio i sut a ble y gall hydrogen neu atebion ynni carbon isel eraill ffitio o fewn y system ynni esblygol. Dros y tymor byr, bydd Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi cyfleoedd sy’n defnyddio asedau naturiol y rhanbarth.

Cefnogir LEADER, sydd â’r nod o gefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau a wynebir gan gymunedau gwledig drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: