04/17/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

UAC lansio maniffesto ar gyfer etholiadau lleol Cymru May 5

MAE  Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei Maniffesto cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022 a fydd yn cael eu cynnal ar y 5ed o Fai.

Mae’r Maniffesto yn nodi prif ofynion yr Undeb ac yn galw ar Gynghorwyr newydd a’r Awdurdodau Lleol ynglŷn â; caffael lleol, daliadau fferm cynghorau sir, Cronfeydd Disodli Cyllid yr UE, tai lleol, twristiaeth gynaliadwy, gwrthbwyso carbon a choedwigo, cysylltedd digidol a safonau masnach.

Wrth siarad ar ôl y lansiad, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Wrth i bob cwr o gymdeithas adfer ar ôl digwyddiadau diweddar a pharhaus ar draws y byd, mi fydd gan Awdurdodau Lleol rhan fawr i’w chwarae yn sicrhau fod pob polisi yn gweithio i gymunedau, economïau, cymdeithas a diwylliannau Cymru – er na ddylid diystyru’r baich cynyddol ar Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â thoriadau i ddyraniadau cyllideb blynyddol.

Er bod yna lawer o bwysau o hyd ar Awdurdodau Lleol i gynnal a gwella ardaloedd a gwasanaethau lleol, un o’r gwersi mwyaf y mae digwyddiadau byd-eang fel pandemig Covid-19 a rhyfel presennol Rwsia yn erbyn Wcráin wedi’i dysgu inni yw pwysigrwydd diogelu ein cyflenwad bwyd.”

Dywedodd Mr Roberts bod UAC yn parhau i ddatgan yn glir bod y fferm deuluol yng Nghymru wrth galon ein heconomi wledig, ein diwylliant a’n tirwedd, ac yn cynnal cannoedd o filoedd o swyddi a degau o filoedd o fusnesau sy’n rhan o’r diwydiant cyflenwi bwyd yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniadau dirifedi eraill i lesiant trigolion Cymru a’r DU – gyda chynhyrchu bwyd, sef ein nwydd mwyaf gwerthfawr ochr yn ochr â dŵr – yn ganolog i’r buddiannau hynny.

“Fel y cyfryw, mae cynnydd i’w wneud yn nhermau atgyfnerthu, ac mewn sawl achos, ailgysylltu’r bwyd cynaliadwy ac ecogyfeillgar a gynhyrchir yng Nghymru â’n cymunedau lleol a sectorau cyhoeddus, er mwyn cynnal a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd, lleihau ein dibyniaeth ar gynnyrch wedi’i fewnforio, a gweithio tuag at sicrhau sero net,” dywedodd Mr Roberts.

Mae’r Maniffesto yn ei gwneud yn glir bod gan Awdurdodau Lleol ran ganolog i’w chwarae o ran gwneud hyn o ran eu polisïau caffael, tra bod y swyddogaethau niferus eraill y maent yn eu cyflawni yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni amcanion amgylcheddol wrth ddiogelu cymunedau lleol, cyflogaeth, cymdeithas a diwylliannau.

“Rydym felly yn galw ar y Cynghorwyr lleol nesaf i sefydlu polisïau caffael sy’n annog creu cwmnïau newydd i sicrhau buddiannau cyflogaeth leol a chadw a buddsoddi yn naliadau’r Cyngor Sir i alluogi tenantiaid ac Awdurdodau Lleol i ddod yn sero net drwy ddefnyddio mentrau ategol”

Mae’r Maniffesto hefyd yn amlygu’r rôl y mae Cynghorau’n ei chwarae wrth ddehongli rheolau cynllunio fel bod datblygiadau ar raddfa fawr fel coedwigo yn bodloni amcanion sydd o fudd i economïau, cymunedau a diwylliant lleol, ac yn sicrhau bod y ffocws ar draws pob lefel o lywodraeth yn seiliedig ar leihau allyriadau carbon yn y lle cyntaf, yn hytrach na gwrthbwyso carbon.

“O ystyried eu rôl ganolog o ran prosesu ceisiadau cynllunio ar gyfer deddfwriaeth newydd, a’u rhwymedigaethau cyfreithiol o ran sicrhau bod eu daliadau amaethyddol eu hunain yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth honno, mae’r Maniffesto hefyd yn gofyn i Awdurdodau Lleol lobïo Llywodraeth Cymru a’r Senedd i sicrhau bod yr adolygiad presennol o Reoliadau Adnoddau Dŵr 2021 yn arwain at ddeddfwriaeth gymesur a fforddiadwy i ffermwyr ac awdurdodau fel ei gilydd”

Wrth fynd i’r afael â mater o Gronfeydd Disodli Cyllid yr UE megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r Maniffesto yn galw ar Awdurdodau Lleol i gydweithio â Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill, waeth beth fo’r gwahaniaethau gwleidyddol, i weinyddu cyllid o’r fath mewn ffyrdd effeithlon ac effeithiol i gefnogi cymunedau Cymru gyda’r effaith fwyaf.

O ran y mater dadleuol o ail gartrefi, mae’r Maniffesto’n tynnu sylw at bwysigrwydd Awdurdodau Lleol yn sicrhau hirhoedledd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy gymhwyso premiymau treth gyngor uwch i ail gartrefi.

“Mae hefyd yn hanfodol bod awdurdodau yn sicrhau bod refeniw ychwanegol o’r fath yn cael ei wario mewn ffordd fwy tryloyw ac yn cael ei neilltuo i liniaru effeithiau ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ac yn galluogi pobl leol i fyw yn eu hardaloedd lleol,” meddai Mr Roberts.

Mae UAC hefyd yn galw ar Awdurdodau Lleol i weithio’n agos â heddluoedd lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau plismona digonol yng nghefn gwlad a gwell addysg i hyrwyddo’r Cod Cefn Gwlad; gweithio gyda darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd i sicrhau bod pob eiddo â mynediad at dechnoleg ffeibr llawn neu rannol; a gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau dull unffurf o archwilio ffermydd, sy’n effeithiol ac effeithlon.

“I’r perwyl hwn, ac o ran yr holl faterion eraill yr ymdrinnir â hwy yn ein Maniffesto, rydym yn ymrwymo i barhau i weithio gyda Chynghorwyr Sir a chynrychiolwyr bob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru, i sicrhau bod rôl amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a ffermydd teuluol yn ein cymunedau yn cael ei hadlewyrchu at bob lefel pan wneir penderfyniadau,” ychwanegodd Mr Roberts.

%d bloggers like this: