03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

British countryside at sunset. Sheep in field on farmland near Trap, Llandeilo in Carmarthenshire, Wales, UK.

UAC yn chwilio enwebiadau am berson llaeth rhagorol yng Nghymru

UNWAITH eto, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod person o’r fath, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr, Gwasanaeth Neilltuol i Ddiwydiant Llaeth Cymru UAC. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru dydd Mawrth Hydref 25 2022.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr gwych. Felly os ydych yn nabod person yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i e-bostio i swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin carmarthen@fuw.org.uk neu ei anfon trwy’r post i UAC Caerfyrddin, 13A Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD erbyn dydd Gwener 7fed o Hydref 2022.

%d bloggers like this: