04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Welsh firms visit the USA to boost trade and export links

Seven Welsh businesses with expertise ranging from engineering and patient care to grassroots sport are heading to the USA this week as part of a Welsh Government-led trade mission.

The delegation is heading to North Carolina and South Carolina, where they will meet with businesses and potential new customers and partners. It is part of the Welsh Government’s commitment to supporting Welsh businesses to grow in Wales and sell to the world, as part of its Export Action Plan.

This is the first time that a Welsh Government-led delegation will have visited the Carolinas which have a combined population of 15 million.

The USA is Wales’ top export market for goods, accounting for 15.7% (£2.9bn) of total goods exports. Over the past year, the value of Welsh goods exports to the USA increased by 69.6% (£1.2 billion). The South is a rapidly growing region in the USA with diverse economic opportunities. Due to the strength in industries, cost competitiveness of doing business, and a pro-business environment, the region offers an entry point for Welsh businesses interested in exporting to the USA.

The mission is part of a series of activities being delivered by the Welsh Government in the run up to the FIFA World Cup in Qatar, in which Wales’ first match is against the USA.

To maximise this opportunity, the delegation of businesses is being supported by the Welsh Government Office in Atlanta, Georgia alongside local partners.

The delegation will include the Football Association of Wales (FAW) Trust which will be looking to meet partners in coaching education for their online learning packages. They will jointly host a breakfast briefing with the Welsh Government featuring a virtual address by Wales Manager Rob Page. Business events to connect with local networks will take place in Greenville, South Carolina and Charlotte, North Carolina,

Wales’ Economy Minister, Vaughan Gething said:

“The USA is an important market for Wales and I’m pleased the Welsh Government can support this delegation of Welsh business talent on our first ever trade visit to the Carolinas.

“This is an excellent opportunity for our businesses to explore the market and build connections with international partners. As part of this, I am keen that we capitalise on opportunities in the run up to the FIFA World Cup, which has the potential to raise the profile of Wales in key markets, like the USA.

The mission, which is part of a wider trade mission programme delivered by the Welsh Government shows our determination to back Welsh business to grow in Wales, and to sell to the world. It underpins our clear ambition to grow Welsh export as we deliver on our Export Action Plan.”

Head of Business Development at FAW, Nick Davidson said:

“The FAW are delighted to be part of the Welsh Government USA Trade Mission to North Carolina and South Carolina. Putting Wales on the world stage during a World Cup year is a shared objective and a great opportunity for business and sport to create powerful partnerships. We have a world-class coaching reputation and have developed a world-class coach education system starting with the Introduction to Football Coaching Certificate through to UEFA Pro Licence. Our global alumni include Mikel Arteta, Yaya Touré, Thierry Henry and Tim Cahill and we’re hoping this mission allows us to grow grassroots football (soccer) across the world.”

Cwmnïau o Gymru yn ymweld ag America i hybu cysylltiadau masnach ac allforio

Cwmnïau o Gymru yn ymweld ag America i hybu cysylltiadau masnach ac allforio
Lawrlwytho
Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddant yn cwrdd â busnesau a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl. Mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a gwerthu i’r byd, fel rhan o’i Chynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.

Dyma’r tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â’r Carolinas sydd â phoblogaeth gyfunol o 15 miliwn.

UDA yw prif farchnad allforio Cymru ar gyfer nwyddau, gan gyfrif am 15.7% (£2.9bn) o gyfanswm allforion nwyddau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd gwerth allforion nwyddau Cymru i’r UDA 69.6% (£1.2 biliwn). Mae’r De yn rhanbarth sy’n tyfu’n gyflym yn UDA gyda chyfleoedd economaidd amrywiol. Yn sgil y cryfder o ran diwydiannau, costau cystadleuol wrth wneud busnes, ac amgylchedd sydd o blaid busnes, mae’r rhanbarth yn cynnig mynedfa i fusnesau Cymru sydd â diddordeb mewn allforio i UDA.

Mae’r daith yn rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, lle bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn UDA.

I fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, mae’r cynrychiolwyr o fusnesau’n cael eu cefnogi gan Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Atlanta, Georgia ochr yn ochr â phartneriaid lleol.

Bydd y cynrychiolwyr yn cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) a fydd yn mynd ati i gwrdd â phartneriaid ym maes addysg hyfforddi ar gyfer eu pecynnau dysgu ar-lein. Byddant yn cynnal cyfarfod briffio dros frecwast ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cynnwys anerchiad rhithiol gan Reolwr Cymru, Rob Page. Bydd digwyddiadau busnes i gysylltu â rhwydweithiau lleol yn cael eu cynnal yn Greenville, De Carolina a Charlotte, Gogledd Carolina.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:

“Mae UDA yn farchnad bwysig i Gymru ac rwy’n falch y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r cynrychiolwyr hyn o dalent busnes Cymru ar ein hymweliad masnach cyntaf erioed â’r Carolinas.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n busnesau archwilio’r farchnad a meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid rhyngwladol. Fel rhan o hyn, rwy’n awyddus ein bod yn manteisio ar gyfleoedd yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA, sydd â’r potensial i godi proffil Cymru mewn marchnadoedd allweddol, fel UDA.

Mae’r daith, sy’n rhan o raglen ehangach o deithiau masnach a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn dangos ein penderfyniad i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru, a gwerthu i’r byd. Mae’n sail i’n huchelgais clir i dyfu allforion Cymru wrth i ni gyflawni ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.”

Dywedodd Pennaeth Datblygu Busnes Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Nick Davidson:

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o Daith Fasnach UDA Llywodraeth Cymru i Ogledd Carolina a De Carolina. Mae rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd yn amcan cyffredin, ac mae’n gyfle gwych i fyd busnes a chwaraeon greu partneriaethau pwerus. Mae gennym enw da yn fyd-eang o ran hyfforddi ac rydym wedi datblygu system addysg o’r radd flaenaf ar gyfer hyfforddwyr, gan ddechrau gyda’r Dystysgrif Cyflwyniad i Hyfforddi Pêl-droed hyd at Drwydded Broffesiynol UEFA. Mae ein cyn-fyfyrwyr byd-eang yn cynnwys Mikel Arteta, Yaya Touré, Thierry Henry a Tim Cahill ac rydym yn gobeithio y bydd y daith hon yn ein galluogi i dyfu pêl-droed ar lawr gwlad ledled y byd.”

%d bloggers like this: