03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ŵyn benyw yn cyflawni orau wrth fagu un oen yn unig

DANGOSODD astudiaeth ar fferm yng Nghymru y gall ŵyn benyw gynhyrchu epil yn llwyddiannus yn 12 mis oed os cânt eu rheoli yn dda a chael maeth digonol.

Bydd ŵyn benyw miwl Cymreig wyneb gwyn croes Aberfield David Lewis yn dechrau ŵyna yn Halghton Hall, Bangor-is-y-coed, ar ddiwedd Mawrth.

Yn ystod gweminar, i roi’r diweddaraf am ei waith prosiect fel safle arddangos Cyswllt Ffermio, rhannodd y gwersi y mae wedi eu dysgu o’i brofiadau o ŵyna ŵyn benyw.

Er ei fod yn gwneud ei orau i osgoi mwy nag un oen, mae’n sicrhau bod unrhyw rai sydd yn cael efeilliaid yn magu un oen yn unig.

“Yn y gorffennol rydym wedi ceisio magu efeilliaid ond heb unrhyw lwyddiant o gwbl. Rydym yn cymryd yr ail oen oddi ar y ddafad bob tro erbyn hyn,” dywedodd Mr Lewis.

“Pan fyddem ni’n gadael dau hefo’r ddafad yn y gorffennol roedd yn tynnu’r famog i lawr, ddim yn syth, ond ar ôl tua pedair wythnos oherwydd nad oes ganddynt yr egni yn eu cyrff i fagu dau. Fe allwch chi golli dafad dda felly.”

Wrth ymdrechu i wneud i hynny weithio, cynigiwyd lefel uchel o rawn i’r ŵyn benyw ond arweiniodd hyn at broblemau mastitis oherwydd eu bod yn cynhyrchu llawer o laeth wrth i’r ŵyn gael eu diddyfnu.

“Rydym wedi dysgu y bydd ŵyn benyw yn magu un oen yn wirioneddol dda ac maen nhw hefyd yn hawdd i roi oen maeth iddyn nhw,” dywedodd Mr Lewis.

“Maent yn barod iawn i dderbyn oen amddifad os byddan nhw wedi colli eu hoen eu hunain.”

Mae’n rhoi’r cyplau mewn corlannau cyn gynted â phosibl ar ôl geni, er mwyn iddynt lunio perthynas, gan fod gan ŵyn benyw duedd i ‘eni a mynd’, esboniodd.

O’r 355 o ŵyn benyw aeth at yr hwrdd eleni, roedd 86% yn gyfeb – ffigwr a ddisgrifiwyd gan yr arbenigwraig ddefaid annibynnol Kate Phillips fel un eithriadol.

Dywedodd Mrs Phillips, oedd yn siarad yn y weminar ac sydd wedi bod yn gweithio gyda’r teulu Lewis ar y prosiect ŵyn benyw, bod 80% neu lai yn fwy cyffredin oherwydd bod ŵyn benyw yn llai ffrwythlon na mamogiaid aeddfed.

Mae magu ŵyn benyw yn gadael i ffermwyr gynhyrchu cnwd o ŵyn o ddefaid na fyddai’n gynhyrchiol fel arall, sydd, yn ei dro, yn lleihau ôl troed carbon y ddiadell.

Ond mae rhai ystyriaethau pwysig i’w cadw mewn cof i gael y gorau o’r polisi hwn.

Mae pwysau’r anifail wrth fynd at yr hwrdd ac wrth ŵyna yn allweddol – mae angen i ŵyn benyw fod yn 60% o leiaf o’u pwysau llawn dwf wrth fynd at yr hwrdd tra dylai hesbinod fod yn 80% o’u pwysau llawn dwf, dywedodd Mrs Phillips.

Efallai na fydd ŵyn benyw bridiau’r ucheldir yn addas oherwydd eu bod yn cael eu geni yn hwyrach ac nad ydynt o ddigon o faint i fynd at yr hwrdd, ychwanegodd.

Os byddwch yn dewis o blith ŵyn benyw wedi eu magu gartref, mae Mrs Phillips yn argymell bridio o’r rhai nad oedd trafferth wrth eu geni ac oedd yn un o efeilliaid.

“Peidiwch â dim ond dewis yr ŵyn sengl cryfion oherwydd fe gewch chi ddefaid mwy a mwy sydd â gofynion cynnal uwch.”

Trowch hwrdd o frid sy’n ŵyna’n rhwydd atynt.

Er bod y teulu Lewis yn magu’n llwyddiannus iawn gyda hyrddod Abermax, dywedodd Mrs Phillips bod bridiau llai sy’n ŵyna’n rhwydd yn well, fel y Southdown neu Charmoise.

“Byddai hynny’n sicr yn wir ar gyfer y tro cyntaf yr ydych yn ceisio ŵyna o ŵyn benyw,” dywedodd.

Roedd yn cynghori y dylid defnyddio hyrddod pryfocio am 15-30 diwrnod er mwyn iddynt gymryd yr hwrdd ar yr un pryd.

Dylent gael hwrdd ar wahân i’r brif ddiadell oherwydd mae ŵyn benyw yn llai cystadleuol am yr hyrddod; mae’n well defnyddio hyrddod profiadol nag ŵyn hyrddod hefyd.

Mae angen i ŵyn benyw dyfu rhwng 200-250g y dydd o’u diddyfnu hyd chwe wythnos ar ôl mynd at yr hwrdd ac yna 130-150g y dydd hyd chwe wythnos cyn ŵyna.

Argymhellir cymhareb o 1:25 ar gyfer yr hyrddod i’r ŵyn benyw i gael oestrws ar yr un pryd neu 1:35 os nad ydych yn anelu at hynny.

Er bod ŵyn benyw cyfeb yn dal i dyfu, dywedodd Mrs Phillips ei bod yn bwysig peidio â’u gor-borthi yn ystod y chwe wythnos olaf cyn ŵyna.

“Os yw’r oen yn anifail 50kg, rhowch borthiant fel petai hi yn famog 50kg i’w chynnal hi a’r beichiogrwydd, nid oen 50kg ar ei brifiant, i osgoi ŵyn mawr ar eu geni.”

Diddyfnwch yr ŵyn yn gynnar, yn 9-12 wythnos, a rhowch ddwysfwyd i’r ŵyn hynny os yw’n bosibl.

Ond, cyfaddefodd Mr Lewis, sy’n diddyfnu yn 12 wythnos, bod rhoi dwysfwyd yn gallu bod yn her.

“Mae’r ŵyn benyw eu hunain mor fach fel eu bod yn gallu cael eu pennau yn y porthwyr a bwyta’r dwysfwyd,” dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

 

%d bloggers like this: