04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Wythnos ar ôl i leisio barn am gyllideb Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r cynlluniau adfer ar ôl y pandemig

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd yn gwahodd pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chastell-nedd Port Talbot i ddweud eu barn am y cynigion yn y gyllideb a’r cynllun corfforaethol ar gyfer 2022-27, ond dim ond wythnos sy’n weddill, Mae’r ymgynghoriad yn cau ddydd Mawrth 1 Chwefror 2022, ac mae’r cyngor yn annog pobl i roi gwybod iddynt beth yw eu barn am y cynigion ar y cyfle cyntaf.

Gellir gweld manylion ynghylch sut i roi adborth yma: www.npt.gov.uk/letstalk

Yn ôl Arweinydd y Cyngor Ted Latham:

“Mae’r pandemig wedi taro llawer rhan o’n cymuned yn galed iawn ac yn ystod haf y llynedd fel glywson ni gan lawer o breswylwyr, busnesau a phartneriaid drwy gyfrwng ein hymgyrch Dewch i Sgwrsio.

“Anelwyd yr ymgyrch at roi mwy o lais i bobl ynghylch ble ddylai ein blaenoriaethau ni fod. Fe siaradodd pobl yn glir am y pethau y dylen ni ganolbwyntio arnyn nhw a beth ddylid ei wneud yn y dyfodol agos wrth i ni ddechrau adfer, ailosod ac adnewyddu ar ôl effeithiau pandemig Covid-19.

“Mae ein cynllun corfforaethol drafft bellach yn adlewyrchu’r adborth hwnnw.:

Dim cynnydd i gyfraddau Treth y Cyngor, buddsoddi yn adferiad ein cymunedau a’r economi leol, ac arian i helpu taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur lleol… dyma rai’n unig o blith y cynigion yng nghyllideb drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23.

Ymysg cynigion eraill mae cynnydd mewn gwasanaethau ieuenctid a hamdden awyr agored i hybu llesiant pobl ifanc, a chyllid newydd ar gyfer ysgolion i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae’r cyngor hefyd yn gobeithio cryfhau’r gefnogaeth i bobl fregus, ac mae hyn yn cynnwys nifer a ddaeth yn unig ac ynysig oherwydd yr argyfwng Covid-19.

Ceir cynigion hefyd i gynyddu sawl tîm cymdogaeth sydd ar gael fel rhan o ymgyrch i “wella, glanhau a glasu” trefi a phentrefi ledled Castell-nedd Port Talbot.

Ychwanegodd y Cynghorydd Latham:

“Rydyn ni o’r farn ei bod hi’n bwysig fod pobl yn lleisio’u barn ynghylch sut y cynllunnir ein gwasanaethau a sut y cânt eu rhedeg, a sut bydd eu Treth Cyngor yn cael ei wario, felly rhowch eich barn i ni os gwelwch yn dda.:

Rhagwelir y bydd penderfyniadau terfynol, sy’n ystyried barn yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn digwydd ar y strategaeth gyllidebol a’r cynllun corfforaethol ar Chwefror 28, 2022.

Ar-lein yw’r ffordd hawsaf o roi adborth ond i’r rhai sydd eisiau copïau papur o holiaduron (sy’n dod yn Saesneg a Chymraeg gydag amlen ddychwelyd rhagdaledig) gellir eu cael yn llyfrgelloedd y cyngor (Port Talbot, Castell-nedd, Sgiwen, Glyn-nedd, Cwmafan). , Baglan, Sandfields a Phontardawe).

%d bloggers like this: