03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Y Cyngor yn diweddaru’r Polisi Seddi Gwag yn dilyn deddfwriaeth

MAE Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn diweddaru ei bolisi seddi gwag ar gyfer cludiant ysgol, yn dilyn newidiadau i ddeddfwriaeth genedlaethol.

Mae hefyd yn bwriadu dirwyn i ben y tâl gweinyddol o £50 am seddi gwag ar fysiau ysgol a redir gan y Cyngor, yn ogystal ag ystyried adolygiad ehangach o’r polisi cludiant ysgol.

Daw’r cyhoeddiadau hyn yn sgil cyflwyno deddfwriaeth newydd ledled y DU. Mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio ar bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n golygu bod yn rhaid i’r holl wasanaethau bysiau masnachol gydymffurfio â mesurau mynediad i bobl anabl.

Golyga hyn fod bysiau ysgol oedd yn cael eu darparu’n fasnachol yn Sir Gaerfyrddin – ac ym mhob rhan o’r DU – wedi cael eu tynnu’n ôl os nad oeddent yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Nid penderfyniad y Cyngor yw hwn.

Mae’r awdurdod wedi lobïo Llywodraethau Cymru a’r DU ynghylch newid y rheolau i ganiatáu eithriad ar gyfer gwasanaethau a ddarperir i ysgolion.

Hefyd mae’r Cyngor wedi ymrwymo i adolygu cludiant ysgol.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r Cyngor yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol i 8,500 o ddisgyblion sy’n byw mwy na thair milltir o’u hysgol uwchradd a dwy filltir o’u hysgol gynradd.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar deuluoedd sy’n byw o fewn tair milltir i’w hysgol uwchradd, neu o fewn dwy filltir i’w hysgol gynradd, nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol a lle mae’r rhieni’n gyfrifol am hynny.

Mae tua 18,500 o ddisgyblion nad oes ganddynt hawl i gael cludiant yn gwneud eu ffordd eu hunain i’r ysgol eisoes.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym ni’n sylweddoli bod y ddeddfwriaeth hon yn mynd i gael effaith ar rai teuluoedd. Er ein bod yn cydymdeimlo’n llwyr, mater cenedlaethol yw hwn ac nid penderfyniad gan y Cyngor. Fodd bynnag, byddwn ni yn cynnal adolygiad cyffredinol o’r polisi cludiant ysgol.”

Ychwanegodd: “Rydym ni wedi gweithio’n agos gydag ysgolion i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, a byddwn ni’n dal ati i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’w cael i ail-ystyried y ddeddfwriaeth genedlaethol hon.”

Ffeithiau

Mae hwn yn fater sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ac mae’n deillio o reoliadau cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd sy’n effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a ddaeth i rym ar 1 Ionawr, 2020.

Yn dilyn her gan grwpiau hawliau anabledd, cryfhawyd y ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2019 i gynnwys cerbydau cludiant ysgol. Rhoddwyd gwybod i’r Cyngor a gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol am y newid hwn ym mis Gorffennaf/Awst 2019. Tynnodd nifer o ddarparwyr gwasanaethau masnachol eu gwasanaethau’n ôl o fis Medi. Bu i eraill ddal ati i ddarparu gwasanaethau hyd nes i’r ddeddfwriaeth ddod i rym ar 1 Ionawr, 2020. Mae’r Cyngor eisoes yn darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer disgyblion ag anableddau neu anghenion ychwanegol (dim ots pa mor bell y maent yn byw o’u hysgol) gan ddefnyddio cerbydau arbenigol.

Nid yw’r mater hwn yn effeithio ar ddisgyblion sy’n gymwys i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol am eu bod yn byw ymhellach na thair milltir o’u hysgol uwchradd, neu ddwy filltir o’u hysgol gynradd. Mae’r Cyngor yn darparu cludiant am ddim i 8,500 o ddisgyblion cymwys, sy’n costio £9 miliwn y flwyddyn.

Mae’r pellter cerdded o dair milltir o ysgol uwchradd, neu ddwy filltir o ysgol gynradd, wedi’i ragnodi gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru Llywodraeth Cymru.

Cyfrifoldeb rhieni yw cludo disgyblion sy’n byw o fewn y pellter cerdded i’w hysgol.
Asesir y llwybrau cerdded sydd ar gael i’r ysgol yn unol â meini prawf a bennir yn genedlaethol.

Byddai’n costio mwy na £15 miliwn i’r Cyngor ddarparu cludiant am ddim i’r ysgol i 18,500 o ddisgyblion ychwanegol nad ydynt yn gymwys – nid yw hyn yn ymarferol yn ariannol, ac nid oes digon o fysiau
.
Os oes gan y Cyngor seddi gwag ar y bysiau mae’n eu darparu, mae’n sicrhau bod y seddi hyn ar gael. Mae’r Cyngor yn bwriadu dirwyn i ben y tâl gweinyddol o £50 am y seddi gwag hyn, y gellir gwneud cais amdanynt bob mis Medi. Mae nifer cyfyngedig o seddi gwag ar gael ar fysiau ysgol, a chânt eu dyrannu yn unol â pholisi Seddi Gwag y Cyngor.

Os caiff gwasanaeth bws ysgol ei weithredu’n fasnachol gan gwmni preifat i deithwyr sy’n talu, mae’n rhaid i’r gwasanaeth ddarparu mynediad llawn i bobl anabl. Mae sawl darparwr yn Sir Gaerfyrddin nad yw’n gallu cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gan nad oes cerbydau priodol ar gael, a chan fod darparu cerbydau sy’n cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn gostus iawn.

%d bloggers like this: