03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar  Fesurau Rheoli Ffin. Ynddo mae yn dweud:

“Gwneuthum ddatganiad i’r Senedd ym mis Ionawr am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cynnal gwiriadau ar ddogfennau, gwiriadau adnabod a gwiriadau corfforol ar nwyddau mewn safleoedd rheoli ffin o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen, gan nodi hefyd sut yr oeddem yn bwriadu rhoi’r gwiriadau hynny ar waith  yng Nghymru.

Neithiwr, bûm mewn cyfarfod, a alwyd ar fyr rybudd, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Ddatganoledig, lle cawsom wybod y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad heddiw i atal rhagor o fesurau rheoli ffin rhag cael eu cyflwyno tan ddiwedd 2023. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i ateb technoleg gael ei gyflwyno bryd hynny.

Ar hyn o bryd, nid oes gennyf ragor o fanylion, heblaw cyfeirio aelodau at y datganiad a wnaed yn San Steffan.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn codi nifer o gwestiynau, am fioddiogelwch ond hefyd i allforwyr, a bydd fy swyddogion yn mynd ar eu trywydd ar fyrder. Rwy’n bwriadu gwneud datganiad arall cyn gynted â phosibl.”

%d bloggers like this: